Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyd i'r eglwys yn Abertawy i brynu sylfaen y capel, os byddai yr ymddiriedolwyr yn feichnïon am yr arian. Gosodwyd ar y blaenoriaid i ofalu bod addoliad teuluaidd yn cael ei gadw gan bob penteulu perthynol i'r eglwysi. Darllenir y cofnodiad a ganlyn gyda dyddordeb: "Penderfynwyd i bob taith Sabboth i ddigolledu y brodyr yn eu llafur Sabbothol am waith y weinidogaeth, ac na roddo neb yn llaw llefarwr dan ddau swllt am oedfa ar y Sabboth." Cynaliwyd y Cyfarfod Misol nesaf yn Ystradgynlais, Medi 9fed a'r 1ofed. Dyma yr unig gofnodiad, ac y mae yn werth ei groniclo ar ei hyd, gan ei fod yn dwyn perthynas â'r capel cyntaf a godwyd gan y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghwm Rhondda. "Caniatawyd i bobl y Ddinas i adeiladu capel i'r Corph er cadw ysgol a phregethu yr efengyl, ond ni addawyd iddynt un swm penodol oddiwrth y sir, ond yn unig y byddai iddynt gael rhywfaint o gymorth gan yr eglwysi amgylchol-un bunt oddiwrth bob un, os gwelent hwy yn dda, ond nad oes rhwymau ar neb ond sydd wedi addaw. Enwau'r cymdeithasau sydd wedi addaw eu cynorthwyo—

1 Tonyrefail £1/0/0
2 Glynogwr £1/0/0
3 Salem £1/0/0

Yr ydym eisioes wedi gweled y buasai moddion crefyddol yn cael eu cadw yn rheolaidd yn y lle hwnw er ys mwy na deg mlynedd. Dyma'r fan lle yr agorwyd gweithiau glo gyntaf yn Nghwm Rhondda; ac nid hir cyn yr ymgasglodd yno. boblogaeth luosog, ac yr oedd pob argoel am achos crefyddol cryf. Mae yn ddiau mai da pe buasid wedi codi capel yn gynt nag y gwnaed, ond nid oedd yr ysbryd anturiaethus sydd yn awr yn meddianu ein cyfeillion yn Morganwg wedi disgyn ar y tadau gofalus a thra gochelgar yn yr amser yr ydym yn awr yn cyfeirio ato. Ni a gawn achos capel y Ddinas gerbron y Cyfarfod Misol drachefn yn Nghaerdydd, ar yr 8fed o Hydref, pryd y "penderfynwyd galw yr holl