eglwysi wrth eu henwau yn Nghyfarfod Misol Pontypridd, i edrych beth a wnaiff pob cymdeithas er cynorthwyo pobl y Ddinas i adeiladu capel." Hefyd, "Fod ymdrin i fod yn Mhontypridd y dydd cyntaf yn achos dyled y Tai Cyrddau, am rhyw lwybr er symud peth o'r ddyled tua'r Nadolig." Yn unol â'r penderfyniad olaf, cytunwyd yn Mhontypridd ar y 5ed o Dachwedd, "trwy arwydd, y byddai i bawb trwy sir i gydweithredu yn ffyddlon erbyn Cyfarfod Misol y Pil, i dalu cymaint a allom o'r hen ddyled sydd yn aros ar y capeli." O ganlyniad fe oedwyd gwneuthur un addewid bellach tuag at gapel y Ddinas hyd ar ol y Calan. Penodwyd Mr. D. Roberts i fyned i Bristol dros fis Rhagfyr. Caniatawyd i Ebenezer Pugh i lefaru yn Aberdar dros un mis. Danfonwyd gyda Evan Jones, Cwmnedd, at Titus Jones, ar iddo ddyfod i'r Cyfarfod Misol nesaf yn Aberafon, yr hwn a gynaliwyd ar y 25ain a'r 26ain o Dachwedd. Yno "penderfynwyd i Wm. Evans a Mr. Thomas Morris i fyned i Lanfabon i fwrw golwg ar y lle maent wedi gymeryd i adeiladu capel, ac i ddyfod â'u golygiadau i Gyfarfod Misol y Pil." Bu'r pwnc o fagu'r plant yn yr eglwysi dan sylw, a rhoddwyd anogaethau at hyny. Derbyniwyd llythyr oddiwrth Mr. Smith, a phenderfynwyd anfon cyfarchiad ato mewn atebiad.
Fe wasanaetha y cofnodion uchod i roddi golwg deg ar yr hyn ydoedd Cyfarfod Misol Morganwg dri-ugain mlynedd yn ol, ac i ddangos "ysbryd rhagorol," manylder, ffyddlondeb, a chydwybodolrwydd y tadau, eu gofal mawr am yr achos yn ei holl ranau, a'r ymroddiad llwyr gyda pha un yr ymgysegrent i waith yr Arglwydd. Y mae yn amlwg hefyd fod. Mr. William Evans wedi enill lle pwysig yn mhlith ei frodyr, a bod ei ddefnyddioldeb yn cael ei fawr werthfawrogi. Yr. oedd yn bresenol mewn naw o Gyfarfodydd Misol yn y flwyddyn 1829, ac yn pregethu ynddynt oll, gydag un eithriad,—weithiau y nos gyntaf, brydiau ereill yr ail fore, un tro am chwech y bore, ac unwaith neu ddwy am ddau; yr hyn