Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sydd yn dangos fod yr oedfeuon cyhoeddus yn raddol yn cael eu hestyn hyd ddiwedd ail ddiwrnod y Cyfarfod Misol. Bu Mr. Evans hefyd mewn tair o Gymdeithasfaoedd Chwarterol yn y flwyddyn hon, sef yn Mhontypool, ar y 25ain a'r 26ain o Fawrth, lle y pregethodd am 3 y prydnawn cyntaf, oddiar Mica ii. 13; yn Nghaerfarchell, ar y 19eg a'r 20fed o Fai, pryd y pregethodd ar yr un awr ag a wnaethasai yn Mhontypool, oddiar Rhuf. xiii. 11; ac yn Nghrughowel ar yr 20fed a'r 21ain o Hydref, ac yr oedd yn pregethu yno am ddau o'r gloch oddiar Ioan i. 17. Yr ydym yn cofio ei glywed yn dyweyd iddo weithredu fel ysgrifenydd mewn un Gymdeithasfa, ac mai yn Mhontypool y bu hyny; ac fe ddichon mai y tro uchod y gwnaeth felly. Y mae cofnodau y Gymdeithasfa hono wedi eu hysgrifenu ganddo ef yn awr o'n blaen, ac yr ydym yn teimlo eu bod mor addysgiadol fel nas gallwn yn amgen na'u gosod i mewn yma.

"1829. Association Pontypool, Mawrth 25 & 26. Society 10 o'r gloch. Ymddyddanwyd â Mr. Morgan Evans, William Howells, a William Rowlands,—

1 Am eu sefyllfa bersonol rhyngddynt â'r Arglwydd.

2. Am eu profiad gyda gwaith y weinidogaeth.

3. Rhoddwyd gair o gyngor i'r pregethwyr ieuainc, na byddont i siarad gormod mewn ffordd o achwyn oherwydd blino a lludded yn y gwaith, fel pe tae neb erioed wedi gwneud y fath orchest a hwy, pan y mae hen bobl wedi gwneud eu gwaith hwy ddwywaith, trwy anhawsderau fwy o ddwywaith; eithr heb nac achwyn na chwyno, yn ei weled yn wir fraint.

4. Dylem fod yn fwy ystyriol o'n brodyr sydd yn ffaelu dyfod atom i'n cyfarfodydd oherwydd afiechyd.

5. Fod yn ddyledswydd arnom ymweled â'r achos yn ein gweinidogaeth, &c., yn y lleoedd gwanaf yn gystal a'r rhai sydd fel arall, ïe, bod yn ofalus yn hyn.

Society un o'r gloch.

1 Trefnu yr Association: Aberystwyth, May 6 & 7; Caerfarchell, Pembrokeshire, May 18, 19th.