Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyhoeddi ychwaith o fewn y capeli ddim o'r fath bethau. 'Ac efe a yrodd allan y prynwyr a'r gwerthwyr.'

Society 8 o'r gloch.

1. Penderfynwyd i'r siroedd anfon gweinidogion bob dau fis am un Sabboth i'r Gelli a Phenybont, er gweini yr ordinhadau i'r eglwysi Seisonig sydd yno. Sir Forganwg i anfon gweinidog am un Sabboth i'r Gelli (Hay) yn mis Medi.

2. Cydunwyd i anfon gair o gyfarchiad oddiwrth yr Association at y brodyr sydd yn glaf ac yn anabl i drafaelu gyda'r achos gan eiddilwch a gwendid :

(1.) Mr. Williams, Lledrod, a Theophilus Jones, sir Aberteifi.
(2.) Mr. Charles a Thomas Evans, Caerfyrddin.
(3.) Watkin Edward, sir Frycheiniog.
(4.) Mr. Howells, Richard James, sir Forganwg.

3. Coffawyd yr hyn fu dan sylw yn Association Merthyr mewn perthynas i'r Ysgolion Sabbothol. Na bo dim ond un ysgol i gael ei holi ar y Sabboth, a phawb i ymadael ar ol y cyfarfod hwn; ac na fyddo i bedair neu bump o ysgolion i gyfarfod â'u gilydd y bore a'r prydnawn ar y Sabboth, ond ei gynal fel rhyw gyfarfod arall, a phawb i fyned tua'u cartref, fel na byddo traul a chost yn cael ei wneud ar y Sabboth gyda'r cyfarfod hwn yn wahanol i rhyw gyfarfod arall.

4. Fod achos yr Ysgolion Sabbothol i fod dan sylw yn Nghyfarfod Misol Abertawy, gan fod amryw o frodyr dyeithr yn dyfod yno."

Dyna'r cofnodau; ac y maent yn ddarlun da o'r Gymdeithasfa fel ag yr oedd yn cael ei dwyn, yn mlaen gan y tadau. Gellid ymhelaethu gyda golwg ar rhai o'r penderfyniadau uchod, fel ag i daflu goleuni pellach arnynt; ond byddai hyny yn arwain i ormod meithder. Gan hyny ni wnawn ychwanegu dim at yr adroddiad, eithr ei adael fel y mae, i ddangos mawr a manwl ofal yr hen bobl o fendigedig goffadwriaeth am yr achos a ymddiriedwyd iddynt gan Ben yr eglwys. Y mae y cofnodion uchod yn ddangosiad am yr hwn a'u hys-