Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

grifenodd hwynt, ei fod yn meddu cymhwysder i gyflawni gwaith ysgrifenydd, yr un mor amlwg ag oedd ganddo i gymeryd rhan yn ngwaith cyhoeddus y Gymdeithasfa.

Nid yw y cofnodion a ysgrifenodd Mr. Evans o weithrediadau Cymdeithasfa Caerfarchell ond byr. Fel y crybwyllwyd, ei destyn yno ydoedd Rhuf. xiii. 11. Dywed Mr. Henry Evans o'r lle hwnw mewn llythyr atom: "Clywais fy mam yn son lawer gwaith am bregeth Mr. Evans. Yr oedd ei lais treiddgar yn adsain tua'r capel 'iachawdwriaeth yn nes,' nes y bu yn dychmygu ei glywed laweroedd o weithiau ar ol hyny. Clywais fy nhad a fy mam yn son llawer am y Gymdeithasfa yma. Bu yn orfoledd mawr pan oedd Morgan Howell yn pregethu—aeth yn waeddi dros y lle."

Y mae Mr. David Evans, Tyddewi, yn cadarnhau yr hyn a ddywed ei frawd, ac yn ysgrifenu fel hyn: Clywais fy rhieni yn son llawer am Gymdeithasfa Caerfarcheil. Yr oedd rhywbeth yn hynod ynddi. Er fod yno wŷr fel Michael Roberts a Morgan Howells, a gorfoleddu mawr rhai troion, eto yr oedd cymaint os nad mwy o son am bregeth William Evans na'r un o honynt. Lawer gwaith y clywais fy mam yn dyweyd ei bod wedi llwyr annghofio pa le yr oedd yn sefyll pan yr oedd efe yn pregethu; ac am amser maith ar ol hyny yr oedd yn teimlo, fel pe bae ar ddaear sanctaidd ac yn clywed ei adlais yn gwaeddi, 'Iachawdwriaeth yn nes, mae yn nes,' bob tro y byddai yn pasio trwy yr heol."

Ar ol y Gymdeithasfa hon yn Nghaerfarchell, aeth Mr. William Evans am daith i'r Gogledd. Wedi pregethu mewn amryw o fanau yn sir Benfro, yr oedd yn Nghilgeran am 10 bore Sul, y 24ain o Fai, ac yn Aberteifi am 2 a 6. Yna aeth rhagddo yn frysiog ar hyd glanau sir Aberteifi, ac erbyn y nos Sabboth dilynol, cyraeddodd Abermaw. Y rhan fwyaf o'r wythnos ddilynol yr oedd yn Lleyn ac Eifionydd, ac ar Sul, y 7fed o Fehefin, yr oedd yn Llithfaen y bore, Clynog y prydnawn, a Llanllyfni am chwech; nos Lun, yr 8fed, yn Nghaernarfon. Dranoeth croesodd i sir Fôn, a