Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

phregethodd dair gwaith bob dydd yn y wlad hono hyd y Sabboth canlynol, y 14eg, pryd yr oedd yn Beaumaris bore, Llanfair y prydnawn, a Bangor yr hwyr. Dydd Llun, y 15fed, yr oedd yn Llanllechid am 10, ac yna, fel y mae ar lawr yn y cof-lyfr, " 14 miles to Bettws" erbyn 7 o'r gloch. Bore dydd Mawrth, yr 16eg, yr oedd yn Ysbytty, ac yn y Tymawr yr hwyr. Ar y ddau ddiwrnod dilynol, yr 17eg a'r 18fed, cynelid y Gymdeithasfa yn y Bala, a phregethodd yntau am 2 yr ail ddydd oddiar Esaia xxv. 6: "Ac Arglwydd lluoedd a wna i'r holl bobloedd yn y mynydd hwn wledd o basgedigion, gwledd o loyw win; o basgedigion breision, a gloyw win puredig." Y mae mater y testyn hwn yn un ag yr oedd meddwl Mr. Evans yn berffaith gydnaws âg ef, ac yn hollol wrth fodd ei galon. Yr oedd wedi traddodi y bregeth droion ar y daith, ac felly yr oedd yn gwbl gartrefol ynddi; ac y mae yn ymddangos iddo gael oedfa lewyrchus yn y Bala, ac oedfa hefyd a fu yn fendithiol. Yr oedd y Parch. John Jones, Ceinewydd, yn bresenol yn y Gymdeithasfa hono, ac y mae yn garedig wedi danfon ychydig o'i adgofion am dani i ni.. " Aeth tri o ddynion ieuanc o gymydogaeth Aberystwyth, y rhai oll oeddynt wedi cael blas mawr ar wrando pregethau, dau o honynt oedd yn byw ar y pryd yn Aberystwyth, a minau o gymydogaeth Capel Dewi, i Sassiwn y Bala, yr hon a gynelid yn Mehefin, 1829. Cytunwyd i gyfarfod â'u gilydd yn y Bow Street am 10 o'r gloch y diwrnod o flaen y Sassiwn. Gwnawd hyn, a cherddwyd tua'r Bala y diwrnod hwnw, a chyraeddwyd Dinas Mawddwy yn yr hwyr, lle y lletywyd dros y nos. Dranoeth cychwyn wyd dros fynydd Bwlchygroes, a chyraeddwyd y Bala tua'r haner dydd. Yr oedd yr oedfa gyhoeddus gyntaf ar y Green yn dechreu am 3 ar y gloch fel arferol, a phregethodd yn yr oedfa hono y Parch. Henry Rees, ac ar ei ol y Parch. Richard Davies, o Lansadwrn. Dranoeth, am 6 y bore, y Parch. John Parry o Gaer, a'r Parch. Richard Lloyd, Beaumaris. Am 10, y Parch. Michael Roberts a'r Parch. Thomas Richard.