Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Am 2 y Parch. William Evans, Tonyrefail—y testyn, Esai. 25. 6; ac ar ei ol y Parch. John Elias—testyn, Rhuf. 8. 37. Am 6, y Parch. John Jones, Talsarn, ac ar ei ol y Parch. John Hughes, Wrexham. Dyma un o'r Sassiynau goreu y bum i ynddi erioed. Ie, i mi yr oreu ar gyfrif llawer o bethau. Yr oedd yn hynod ar gyfrif cydgyfarfyddiad y fath ddoniau pregethwrol ag oedd ynddi, a'r effeithiau annileadwy a gynyrchodd ar lawer o'r gwrandawyr. Arosodd ei heffeithiau ar fy meddwl i am flynyddoedd—ïe, yn wir hyd heddyw; ac yr oedd Mr. William Evans yn un o'r lluaws offerynau a fu yn foddion i gynyrchu yr effeithiau hyn. Yr oedd fel udgorn arian yn galw ar bechaduriaid i gyfranogi o wleddoedd yr efengyl. Gallwn ddyweyd llawer am y Gymdeithasfa hono, ond rhaid ymatal." Dyma y Gymdeithasfa yn mha un yr ordeiniwyd Mr. John Jones, Talsarn, a Mr. John Hughes, Wrexham, wedi hyny Liverpool, ac ereill. Ar ei ffordd adref o'r Bala, pregethodd Mr. Evans mewn amryw o fanau yn sir Drefaldwyn; hefyd yn y Rhaiadr a'r Bontnewydd yn y lle olaf yn nhŷ un Mrs. Jones,—yn sir Faesyfed, yn y Capel-isaf, ac Aberhonddu yn Mrycheiniog; a gorphenodd y daith nos Iau, y 25ain o Fehefin, yn Merthyr Tydfil.

Mewn perthynas i'w lafur cartrefol yn Morganwg am y flwyddyn yr ydym yn awr arni, yn ychwanegol at ei waith. mewn cysylltiad â'r Cyfarfod Misol, yr oedd yn dilyn ei gyhoeddiadau Sabbothol gyda chysondeb difwlch, phregethai yn aml ar ddyddiau yr wythnos. Heblaw hyny, byddai nid yn anfynych yn myned i amrywiol leoedd i gynal cyfarfod eglwysig, neu fel yr arferid dyweyd, "cadw society," at yr hyn orchwyl yr oedd ganddo ddawn arbenig ac annghyffedin. Er engraifft: "Chwefror 11eg, Aberdar society; y 27ain, Cardiff society; Gorph. 22ain, Babell (Croesfân) society; Tachwedd 7fed, Seion (Brynsadler) society; y 18fed, Dowlais society." Ar y 29ain a'r 30ain o Ebrill, agorwyd Capel Seion, Brynsadler, ac yr oedd efe yn pregethu yno am IO oddiar Esai. lvii. 19: Myfi sydd yn creu ffrwyth y