Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwefusau; Heddwch, heddwch, i bell ac i agos, medd yr Arglwydd; a mi a'i iachaf ef." Hefyd ar y 9fed a'r 10fed o Ragfyr, yr oeddid yn agor "tŷ cwrdd City—is-coed," sef y tŷ y cynaliwyd pregethu a moddion ereill ynddo cyn codi capel Penllin, a thua milldir i'r dwyrain o'r pentref hwnw; ac yr oedd Mr. Evans yn pregethu am 2 o'r gloch. Ar y dydd olaf o'r flwyddyn, yr oedd yn y Pil yn y Cyfarfod Misol oedd i fod yno y diwrnod hwnw a'r dydd cyntaf o'r flwyddyn newydd, 1830. Y mae gweithrediadau y Cyfarfod Misol hwnw yn awr o'n blaen. Yn mhlith pethau ereill, penderfynwyd roddi caniatad i "bobl Llysyfronydd adeiladu capel yn Nhregolwyn tua gwerth 40 neu 50 o bunau, ac y byddai i ychydig gymorth gael ei roddi iddynt er ei adeiladu gan y Corph, trwy gasglu yn yr eglwysi agosaf atynt, ac nid ei gyfrif at ddyled y sir." Dyma y tro cyntaf i Mr. Evans gael y fraint o bregethu yn Nghyfarfod Misol y Pil. Wrth ystyried ei boblogrwydd, a'r lle a roddid iddo nid yn unig yn ei Gyfarfod Misol ei hun, ond hefyd yn y Gymdeithasfa, a hyny yn y Gogledd fel yn y Deau, nis gallwn lai na rhyfeddu rhyw gymaint yn herwydd hyny. Ond y mae cyfrif i'w roddi am y peth. Yn yr adeg hono yr oedd Cymdeithasfa achlysurol wedi bod yn cael ei chynal tua'r Nadolig yn flynyddol yn Morganwg, ac fel rheol byddai y dyeithriaid a elent i'r Cymdeithasfaoedd hyny yn myned hefyd i'r Pil, ac o angenrheidrwydd gelwid arnynt i gymeryd y rhan gyhoeddus o'r gwaith. Gan fod Cymdeithasfa achlysurol i'w chynal yn Llantrisant ar y 5ed a'r 6ed o Ionawr, mae yn ddigon tebyg fod o leiaf un gweinidog dyeithr yn y Pil y tro hwn hefyd; eithr fe osodwyd Mr. Evans i bregethu am 11 yr ail ddydd. Yn y Gymdeithasfa grybwylledig yn Llantrisant yr oedd efe yn un o'r rhai yr ymddyddanwyd â hwynt yn nghyfarfod y pregethwyr-y lleill oeddynt Mri. Richard Thomas, B. Evans, a B. Williams-am eu profiadau crefyddol ac am eu profiad gyda'r gwaith; a phryd hefyd y rhoddwyd gair o gynghor yn gyffredinol mewn perthynas i'r dull o bregethu.