Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid yw yn ymddangos fod llawer o bethau amgylchiadol dan sylw yn y Gymdeithasfa hono; a digon priodol fyddai ei galw, fel y gwnaed y Gymdeithasfa yn Nghasgwys, sir Benfro, yn 1881, yn Gymanfa Ysbrydol. Gwnaeth Mr. Evans gofnodiad lled gyflawn o'r pethau buddiol fu dan sylw. Fe ddichon ei fod yn gweithredu fel ysgrifenydd, gan nad oedd Mr. Ebenezer Richard yn bresenol. Modd bynag, parhaodd i gyflawni gwaith ysgrifenydd Cyfarfod Misol Morganwg am y flwyddyn hon, fel y gwnaethasai y flwyddyn flaenorol.

Yn St. Ffagan, ar y 27ain a'r 28ain o Ionawr, enwyd ef a Mr. David Howell i fyned i Gaerdydd i ymddyddan â William Thomas am ei gymelliadau at waith y weinidogaeth; ac hefyd i fyned i Glynogwr gyda Mr. Richard Thomas i ymddyddan â Mr. William Watson i'r un amcan. Ar y Sul, y 14eg o Chwefror, yr oedd yn Salem, Pencoed, am 10, St. Brid am 2, a'r Hen Gastell, Penybont, am 6; y tri diwrnod dilynol pregethodd mewn amrywiol fanau yn Ngorllewin Morganwg. Yna efe a roddodd daith o saith diwrnod trwy ranau o sir Gaerfyrddin. Ar ol rhoddi ychydig o oedfeuon ychwanegol yn mhen Gorllewinol Morganwg, cyraeddodd Ddyffryn Margam erbyn nos Sadwrn, y 27ain, lle y pregethodd, ac hefyd y bore Sabboth dilynol; yn y Graig-fach am 2, ac yn y Llwyni yn yr hwyr. Ar y 3ydd a'r 4ydd o Fawrth yr oedd yn Nghyfarfod Misol Merthyr, ac aeth oddiyno i Lanfabon erbyn 7 nos Iau y 4ydd, a phregethodd drachefn am 10 bore dranoeth yn Ystradmynach. Yr oedd yn bresenol yn y cyfarfod i "agor tŷ cwrdd y Dinas," ar y 25ain o'r un mis; pregethodd yno am 6 oddiar Esai. lv. 7, ar ol bod yn gweinyddu mewn angladd yn y Castella Fach am 2 y prydnawn. Dyma, fel y dywedwyd yn barod, y capel cyntaf perthynol i'r Methodistiaid yn Nghwm Rhondda. Cyn diwedd yr un mis, sef ar y 27ain a'r 28ain, yr oedd Cymdeithasfa Chwarterol yn cael ei chynal yn Mhontfaen. Fel y gallesid dysgwyl, yr oedd Mr. Evans yno, ac ysgrifenodd grynodeb cyflawn o'r