Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweithrediadau. Mri. D. Roberts, John Morgan, a Jenkin Harries oedd y brodyr yr ymddyddanwyd â hwynt yn y dull arferol yn nghyfarfod y pregethwyr. Cyngorwyd y llefarwyr i arfer termau Ysgrythyrol wrth bregethu, ac i beidio cynal dadl er dim; i ymagweddu yn addas, ac ymarfer i sobrwydd, nid yn unig yn y pwlpud, ond yn mhob man; ac na byddo neb yn perthyn i'r Corph yn tueddu at ddadleuaeth, eithr pawb, yn enwedig llefarwyr, yn arfer termau Ysgrythyrol, a gochel arfer geiriau yn tueddu at bynciau dadleugar. Yıdriniwyd ar y dull mwyaf buddiol i gadw cyfarfod eglwysig neu society profiad: "(1.) Darllen, canu mawl, a gweddio; (2.) Dywedyd gair yn gyffredinol, ond nid yn faith, neu i'r pregethwr neu i'r blaenor ddyweyd gair o'i brofiad ei hunan, yn hytrach na holi, holi, fel judge ar y fainc; (3.) Gofyn ychydig yn dirion i'r plant fyddo yn bresenol; (4.) Bod yn gydnabyddus o glwyfau a doluriau pawb sydd yn angenrheidiol i gadw society yn fuddiol." Mae yr anogaethau a'r awgrymiadau hyn yn sicr mor addas yn awr ag oeddynt y pryd hwnw. Bu William Evans yn drwyadl ffyddlawn i'r cyfarwyddiadau: ni bu neb erioed yn fwy felly. Yr oedd y sobrwydd sydd yn gweddu i bregethwr yr efengyl bob amser yn amlwg yn ei agweddiad. Nid oedd a fynai â dim dadleugar, ac yr oedd ei ymadroddion yn hollol Ysgrythyrol. Yr ydym eisioes wedi cael cyfle i grybwyll fod ganddo ddawn neillduol at arwain "society profiad." Yr oedd bywiogrwydd ei ysbryd, cyflymder ei feddwl, a pharodrwydd ei ymadrodd yn dra manteisiol iddo i hyny; eithr yr oedd yn meddu y cymwysderau pwysicach a mwy hanfodol, sef adnabyddiaeth o glwyfau a doluriau y saint; ac yn ychwanegol at hyn oll, yr oedd ganddo ddigon o synwyr a thynerwch i drin y clwyfau fel ag i'w gwella. Nid annghofiwn byth y cyfarfod eglwysig y buom ynddo ar Donyrefail dan ei arweiniad ef. Yr oedd hyny tua'r flwyddyn 1860-yr unig gyffeusdra o'r fath erioed a gawsom. Wedi dechreu y cyfarfod trwy ddar llen a gweddio ei hunan, ac yna rhoddi cyfarchiad byr mewn