ysbryd cynhes ag oedd yn creu tynerwch yn mhawb oedd yn bresenol, efe a droes ar ei law ddehau at y brodyr yn y sedd fawr, ac yna aeth allan o amgylch y capel, nes y dychwelodd yn ol erbyn amser terfynu'r cwrdd, i'r man lle yr oedd yn sefyll ar y dechre, gan ofyn cwestiwn i, a thyny atebiad oddiwrth, amryw o'r brodyr a'r chwiorydd, a chan roddi cyngor i un, gocheliad i'r ail, gair o gysur i'r trydydd, ergyd dyner i'r nesaf, anogaeth i arall—gair yn ei bryd wrth bob un, a chymwyso'r cwbl at bawb. Nid oedd dim amser yn cael ei golli, na dim trai ar ei ddawn yntau yn trin pob math o brofiad a adroddid yn y modd mwyaf dedwydd a buddiol. Buom yn ddiweddar yn ymddyddan àg un a fagwyd yn eglwys Tonyrefail, a chyfeiriai at y cyrddau eglwysig a'r modd y byddai Mr. Evans yn eu cadw, fel adgofion melusaf ei mebyd a'i hieuenctyd. Y mae y diweddar Mr. Watkin Williams yn cyfeirio at yr un peth yn ei erthygl dan y penawd "Tonyrefail," a ymddangosodd yn y Traethodydd am 1869, pan y dywed," Yr oedd purdeb duwiol chwaeth ein hanwyl a'n henwog weinidog, gwreiddiolder ei feddwl, cyflawnder ei adnoddau, newydd-deb ei ysbryd, a'i dymer fagwriaethol, yn ei wneuthur yn fraint o'r radd uchaf cael aros dan ei gysgod, ac ymborthi ar gynyrchion toreithiog ei gymdeithas." (tud. 459.) Ac felly y mae yn eglur na bu y sylwadau ar y dull goreu o gadw society profiad a wnaed yn y Gymdeithasfa uchod yn Mhontfaen yn ofer a diffrwyth i'r gweinidog o Donyrefail.
Yr oedd Cyfarfod Misol nesaf Morganwg yn cael ei gynal yn Salem, Pencoed, ar y 12fed a'r 13eg o Ebrill, Yno "John James a anogwyd i roddi ei gyhoeddiadau trwy y sir yn Sabbothol." Ac yn mhen deufis wedi hyny, sef yn Nghyfarfod Misol Aberddawen, Mehefin 16eg a'r 17eg, "Ymddyddanwyd â Mr. John James am ei brofiad a'i dywydd gyda'r gwaith o bregethu, a dangosodd yr holl Gyfarfod Misol eu boddlonrwydd ynddo er rhoddi galwad iddo i lefaru trwy yr holl sir." Dyma y pryd, gan hyny, y derbyniwyd Mr. John