Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

James, Penybont, yn aelod o'r Cyfarfod Misol; ac fe welir oddiwrth y cofnodion ei fod eisioes wedi enill lle uchel yn meddyliau yr holl frawdoliaeth. Yn yr un Cyfarfod Misol penodwyd Pwyllgor Adeiladu, "er cynorthwy i'r eglwysi hyny ag a fyddo yn adeiladu neu yn helaethu eu capeli." Nifer y pwyllgor hwn oedd deuddeg, ac yr oedd Mr. Evans yn un o honynt. Ac yn y Cyfarfod Misol dilynol a gynelid yn Mhenybont ar y 14eg a'r 15fed o fis Gorphenaf, enwyd ef a Mr. Richard Thomas a Mr. David Howell i ymweled â holl eglwysi y sir, ac yr oedd pob un o honynt i gymeryd blaenor gydag ef. Yn ol penderfyniad blaenorol, yr oedd y sir wedi ei rhanu yn chwech o ddosbarthiadau, sef Abertawy, Castellnedd, Penybont, Llantrisant, Caerdydd, a Merthyr. Yr oedd y brodyr parchedig Mr. H. Howells, Mr. Hopkin Bevan, a Mr. Rd. James, wedi llesgau, ac i raddau yn gystuddiol, fel na phenodwyd hwynt i gymeryd rhan o waith yr ymweliad; ond fe ychwanegwyd enw Mr. Benjamin Evans at y gorchwyl. Nid ydym yn gwybod ai dyma yr "ymweliad" cyntaf, yr hyn sydd bellach yn arferiad blynyddol, ac yn cael ei gario allan gyda gofal mawr yn Morganwg. Fe ddichon na fyddai yn anfuddiol, ac yr ydym yn sicr y bydd yn hyfrydwch gan lawer o gyfeillion y sir hono, i weled y Papyr Ymweliad am y flwyddyn 1830.

"Y pethau a nodwyd gan y Cyfarfod Misol i'w coffau yn yr eglwysi gan yr ymwelwyr:—

1. A oes heddwch a thangnefedd yn eu plith? oblegyd lle mae annghariad ac ymrysonau, onid oes aflwydd yno?

2. Ymofyn yn fanwl a ydyw y blaenoriaid yn ddynion. ymdrechgar i lanw eu lle yn yr eglwysi, ac heb fod yn faich i'r rhai sydd dan eu gofal.

3. A ydyw yr eglwysi yn ofalus, trwy gyfrwng y blaenoriaid, i gael a chadw gweinidogaeth Sabbothol?

4. A ydyw yr ordinhadau yn cael eu gweinyddu yn gyson yn yr eglwysi?