Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

5. Ydyw pawb o berchen teuluoedd yn cadw addoliad ddwywaith yn y dydd o leiaf?

6. A oes gofal am ein teuluoedd i ddyfod â hwy i foddion gras hyd y mae ynom ?

7. A oes ffyddlondeb i gadw pob moddion heb esgeuluso ein cydgynulliad ein hunain ?

8. A ydyw ein plant yn cael eu magu yn yr eglwys ?

9. A ydyw ein cyfarfodydd prifat yn cael eu cynal yn y modd goreu, trwy ymdrin â chyflyrau y bobl yn y modd mwyaf ysbrydol.

10. Cyngor i bob eglwys i gadw undeb y Cyfarfod Misol, a bod yn wir ofalus i gadw pob peth yn ngosodiad y Cyfarfod Misol, a gwneud pob casgliad yn ol eu gallu, a hyny yn ei dymor priodol.

11. Gofalu dechreu pob moddion at yr amser enwedig.

12. Gofalu dibenu y cyfarfodydd prifat mewn amser addas.

13. A ydyw yr ysgol yn cael ei chynal yn mhob capel ar y Sabboth.

14. Gofyn rhif yr eglwys, a dodi hyny i lawr yn ysgrifenedig."

Gwnaeth Mr. Evans ei ran o waith yr ymweliad yn y drydedd wythnos o Tachwedd; a bu mewn deuddeg o fanau, sef holl ddosbarth Merthyr a rhan o ddosbarth Llantrisant. Erbyn diwedd y flwyddyn yr oedd yr ymweliad wedi ei gwblhau trwy yr holl sir; a gwnaed i fynu ystadegau yr eglwysi mewn rhan, a chyflwynwyd hwynt yn nghyfarfod blynyddol y Pil. Yr oedd holl ddyled Morganwg ar derfyn y flwyddyn 1830 "mor agos ag y gellid deall" yn £8000, a "rhif yr aelodau yn y sir, mor agos ag ydym yn gwybod, 4000." Yr oedd cynydd mawr wedi cymeryd lle er y flwyddyn 1818, pryd nad oedd nifer yr aelodau ond yn nghylch 1400. Yn ol yr adroddiad a gyflwynasid i'r Gymdeithasfa yn Mhontfaen yn niwedd y mis Mawrth blaenorol am sefyllfa yr achos yn y sir, ac fel y mae y ffigyrau hyn yn profi, yr oedd y gwaith da yn myned rhagddo yn llwyddianus yn yr amser