Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwnw. Y mae un cofnodiad arall perthynol i Gyfarfod Misol Morganwg am y flwyddyn yr ydym yn awr arni, ag sydd yn meddu dyddordeb; ac yn gymaint a bod enw Mr. Evans ynddo, y mae yn rhan o'r hanes sydd genym i'w adrodd. Yn Nghyfarfod Misol Abertawy, Rhag. 1af a'r 2il, "enwyd Mr. Richard Thomas, Thomas David, a William Evan (cofier mai efe ei hun oedd yn ysgrifenu) i fyned i Hirwaen ac i Ddowlais i ymddyddan â brodyr ieuainc am eu cymhelliad i waith y weinidogaeth." Ac yn y Cyfarfod Misol dilynol yn y Pil, "penderfynwyd yn achos y dyn ieuanc sydd yn Hirwaen a rhywbeth ar ei feddyliau am lefaru, iddo ddywedyd ychydig ar ddiwedd yr ysgol bob Sabboth mewn ffordd o gyngori am y mis hwn, i edrych a ddaw pethau yn fwy i'r goleu; ac felly y tri dyn ieuainc yn Nowlais yr un modd." Fe adnebydd ein cyfeillion yn Morganwg pwy oedd y "dyn ieuanc" hwnw yn Hirwaen. Ni a gawn gyfleusdra eto i ddyfod at ei enw. Ac yn mhellach, mewn cysylltiad â helaethiad yr achos yn y sir yr ydym yn gweled y tri chrybwylliad canlynol yn nghof-lyfr Mr. Evans: (1.) Mehefin yr 2il, "agor tŷ cwrdd Tregolwyn;" (2.) Hydref 27ain a'r 28ain, "Cefn—agor tŷ cwrdd;" (3.) Rhagfyr 27ain, "agor tŷ cwrdd Salem, am 10: Rhuf. xiii. II." Nid yw yn ymddangos ei fod yn bresenol yn y ddau le blaenaf. Yn ystod y flwyddyn hon gwasanaethodd yr holl deithiau Sabbothol yn ei sir, gyda dwy neu dair o eithriadau; ac ni bu ond dau neu dri o Sabbothau allan o'r sir. Bu yn y gwaith bob Sul o ddechreu'r flwyddyn i'w diwedd. Ni chollodd ond un Cyfarfod Misol, yr hwn a gynaliwyd yn Aberdar yn mis Mai; a phregethodd yn mhob un o'r lleill. Mae y cof lyfr yn ei ddangos fel un ag oedd yn dwyn gofal mawr a llafurus dros achos yr Arglwydd yn ei wlad. Hefyd yr oedd yn bresenol yn Nghymdeithasfa Aberteifi ar y 4ydd a'r 5ed o Awst, a phregethodd yno am 4 y prydnawn cyntaf, oddiar Heb. x. 23, o flaen Mr. John Elias. Yr oedd Mr. Elias yn pregethu drachefn am 10 dranoeth, pryd y cafodd un o oed-