feuon hynotaf ei oes. Fe geir crybwylliadau helaeth am y Gymdeithasfa hono, ac yn enwedig am yr oedfa ddeg o'r gloch, gan y diweddar Barch. Dr. Phillips, Henffordd, yn y gyfrol o'r Drysorfa am 1870. Eithr y prydnawn cyntaf nid oedd Mr. Elias wedi pregethu gyda'r nerth a'r llewyrch ag oedd yn arferol iddo ef. Y mae yn ymddangos modd bynag i Mr. William Evans gael cymorth annghyffredin, a'i fod y tro hwnw yn ei hwyliau goreu. Yr oedd mewn trallod meddwl mawr ar ei ffordd i'r Gymdeithasfa hono, fel yn wir y byddai yn gyffredin ar achlysuron o'r fath. Gofynwyd iddo unwaith gan frawd o weinidog, sef Mr. Ebenezer Jones, Castellnedd, pan ddygwyddasant gwrdd ar brydnawn Sadwrn, tua'r flwyddyn 1867, ar eu ffordd i'w cyhoeddiadau y Sabboth dilynol, "A gaf fi ofyn i chwi pa fodd yr oeddych pan yn myned i'r Cymanfaoedd mawrion?" "Bron marw, bron marw." "Ië, a oeddych felly mewn difrif?" "O'wn yn wir, o'wn yn wir. Mi ddywedaf i chwi yn awr yr wyf yn cofio myned i Gymanfa yn Aberteifi; yr oeddwn yn llwfr iawn; ac yn y society, pan yr oeddynt yn cyhoeddi yr oedfeuon, clywais fy mod i bregethu am dri ar y maes gydag Elias; os oeddwn yn ddrwg o'r blaen, gwaeth wedi hyny; ond yr oedd yn rhaid ymdrechu. Cefais oedfa dda; a dyna oedd yn od, welwch chwi, yr oedd y dyrfa wrth fyned o'r cae yn dywedyd wrth eu gilydd, a minau yn y crowd yn eu clywed, 'Yr un bach aeth â'r cwrdd;' ond beth dâl? Yr oedd Elias yn pregethu am ddeg dranoeth gyda'r fath nerth, nes oedd llawer yn cwympo mewn llewygfeydd. Yr oedd yr un bach o'r golwg yn awr." Yr ydym ein hunain yn cofio ei glywed yn dyweyd mewn cyfeiriad at yr un oedfa yn Aberteifi, "Yr oedd ei waethaf ef (Elias) yn well na'm goreu i."
Bu drachefn yn Nghymdeithasfa Woodstock, sir Benfro, ar y 19eg a'r 20fed o Hydref; ac yr oedd yn pregethu yno am 3 y prydnawn cyntaf, oddiar Act. xiii. 26. Yr oedd yn Nghaerfyrddin drwy'r dydd ar Sul yr 17eg, a chyraeddodd Woodstock erbyn 2 o'r gloch prydnawn dydd Llun i fod yn