Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yno, ac hefyd Mr. William Morris, ac y mae yn dra thebyg fod y mwyafrif, os nad yr oll, o'r lleill yn bresenol. Cynaliwyd dau gyfarfod—un yn y prydnawn a'r llall yn yr hwyr. Y penderfyniad y daethpwyd iddo ydoedd, nad oedd dim i'w wneuthur ond dadgorphori yr eglwys, a diarddel yr holl aelodau, a chymeryd meddiant o'r capel gan y cenadon. Wedi myned allan o'r capel gofynwyd i Mr. Evans gan Evan Jones (neu Ifan Shon fel yr adnabyddid ef), yr hwn a fu farw tuag ugain mlynedd yn ol, wedi cyraedd yr oedran mawr o gant a thair blwydd,—" Pa bryd yr ydych yn dyfod yma i bregethu eto, Mr. Evans?" pryd yr atebwyd ef mewn mynyd gan y gweinidog o Donyrefail, "Pwy hawl sydd genyt ti i ofyn cyhoeddiad? nid wyt ti ddim yn aelod eglwysig." Cyflwynodd y cenadon eu hadroddiad i'r Gymdeithasfa achlysurol a gynaliwyd yn mhen ychydig ddyddiau ar ol hyny, sef ar y 29ain a'r 30ain o Ragfyr, yn Aberafon, yr hon a lywyddid gan Mr. John Evans. Fel hyn y mae y cofnodiad sydd o'n blaen: "" Ymdriniwyd ar achos Merthyr. Nodwyd personau i fyned i Ferthyr i ddechreu society Sadwrn, sef y dydd cyntaf o'r flwyddyn (1831), am chwech o'r gloch; a rhoddwyd gorchymyn na dderbynid neb yn ol i'r society gyntaf na'r ail o'r bobl oedd yn nechre yr ymddadleuaeth. Enwau y personau i fyned i Ferthyr :-William Havard, William Evans, Mr. Morris, a Thomas Pugh." Oddiwrth y penderfyniad hwn y mae yn deg i ni gasglu y gellid derbyn yr oll o'r aelodau ar ol yr ail gyfarfod eglwysig, eithr yn ddiameu ar y telerau eu bod o hyny allan "yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd yn nghwlwm tangnefedd," ac yn llwyr roddi heibio pob dadl ac ymryson. Yn awr, un o'r rhai, ac yn ddiau y penaf un, yn nechre y ddadleuaeth ydoedd Mr. David Williams, y gweinidog, at yr hwn yr ydym wedi cyfeirio yn barod, am yr hwn y dywedir yn y "Cofnodiad Bywgraffyddol" am dano ar tudalen 292 o'r ail gyfrol o Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, ei fod "yn ddyn o ewyllys gref, ac yn dra phenderfynol am ei ffordd." Ei olygiad ef am yr Iawn