Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydoedd ei fod yn ddirprwyol ac nid yn fasnachol. Dyma'r "termau" ag y bu y ddadleuaeth yn eu cylch; ac megys yn mhob dadleuaeth, daeth pethau ereill i fewn ag oedd yn gwneud y rhwyg yn fwy rhwng y ddwy blaid. Y canlyniad fu, i Mr. Williams ymneillduo, a'r rhai a lynent wrtho, a ffurfiasant achos newydd, a chodasant, yn mhen ychydig amser, gapel a alwyd Adulam, ac ymwasgasant at yr Annibynwyr; a derbyniwyd hwynt i gylch yr enwad hwnw. Ac felly fe lwyr dorwyd y cysylltiad rhwng Mr. David Williams â Chyfundeb y Methodistiaid. Yr oedd gan Mr. David Williams fab o'r enw Edward Williams, yr hwn a fuasai yn bregethwr yn y Corph. Yr oedd wedi ei dderbyn yn aelod o'r Gymdeithasfa. Bu efe yn gyfaill i Mr. Evans ar un o'i deithiau yn y Gogledd, sef ei daith gyntaf yn y flwyddyn 1823. Yn y flwyddyn 1826, ar ol ei symudiad o Ferthyr i drigianu yn Nghaerffili, "ymadawodd â'r Methodistiaid, a derbyniwyd ef yn aelod yn y Groeswen gan Mr. Hughes. Yn nechre y flwyddyn 1829 derbyniodd alwad oddiwrth eglwys Bethesda'r fro, ac urddwyd ef yno Mawrth 19eg yn yr un flwyddyn yn gynorthwywr i'r Hybarch Thomas Williams, yr emynwr enwog." (Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, cyf. i., tud. 89.) Wedi gwasanaethu amryw o eglwysi Meifod, Moelfre (sir Ddinbych), Llanfairmuallt, Cwmbrân, a Brynbiga, terfynodd ei oes yn Llansantffraid, Maldwyn, a bu farw Medi yr 16eg, 1863. Hysbysir ni yn y gwaith yr ydym uchod wedi dyfynu o hono fod Mr. Edward Williams yn ŵr hynod o serchus a chyfeillgar, ac y meddai synwyr cyffredin cryf, a'i fod yn bregethwr cryno, chwaethus, a melus. Nid ydym yn cofio clywed Mr. Evans yn son am dano; ond mae yr hyn a ddywedwyd yn dangos y rhaid yr edrychid arno fel gŵr ieuanc gobeithiol, pan yr aeth gydag ef ar daith i bregethu yr efengyl trwy siroedd Brycheiniog a Threfaldwyn yn 1823. Ni fu yn llwyddianus iawn yn ei yrfa weinidogaethol gyda'r Annibynwyr. Fe ddichon pe buasai wedi aros yn ei wlad ei hun, ac ymfoddloni i drigo yn mhlith