Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei bobl ei hun, y buasai ei gymwysderau wedi ymddadblygu i fwy o amlygrwydd nag a wnaethant, ac y buasai ei enw wedi dyfod i lawr atom yn beraroglaidd fel enwau ereill yn y Cyfundeb a gychwynasant gyda'r gwaith mawr agos yr un pryd ag y dechreuodd efe bregethu; oblegyd er nad oedd bywioliaeth i'w chael yn nglŷn â'r weinidogaeth, yr oedd y fath syched am yr efengyl yn y dyddiau hyny, a'r fath gyfleusderau i'w chyhoeddi trwy deithio ac yn y Cymdeithasfaoedd, fel ag i dynu allan ddoniau gweinidogaethol, ac i wneud y defnydd helaethaf o honynt.

Gan ein bod yn awr wedi gwneud crybwylliad am Mr. Edward Williams fel cyfaill Mr. Evans ar ei daith gyntaf i'r Gogledd, gwnawn nodiad byr am y brodyr a fuont gydag ef ar ei deithiau yn 1825 a 1829. Ei gyfaill yn 1825, mor bell ag y gallwn gasglu, ydoedd Mr. Williams, Pontypridd. Yr oedd Mr. Williams ar y pryd, ac am flynyddoedd wedi hyny, yn llanw y swydd o Oruchwyliwr y Cyhoeddiadau yn sir Forganwg. Ei waith ef ydoedd ysgrifenu dros y Cyfarfod Misol i wahodd pregethwyr dyeithr, a threfnu eu teithiau. Cyn myned i'r Gogledd gyda Mr. Evans, gorchymynwyd ef gan y Cyfarfod Misol i ofyn gan Mr. William Jones, Rhuddlan, i ddyfod ar daith i bregethu yr efengyl yn Morganwg. Yn Nghymdeithasfa y Bala, yn y flwyddyn grybwylledig, ceisiodd Benjamin Williams gan Mr. Evans i fyned gydag ef at Mr. Jones. Ond pan ddangoswyd ef iddynt, dywedodd Mr. Williams, "Ni ofynaf fi ddim iddo; nid wyf fi yn ei liko." "Paham hyny ?" gofynai Mr. Evans. "Oblegyd mae e' yn gwisgo ei het ar ochr ei ben." Ac ni ofynwyd iddo y tro hwnw. Felly yr adroddai Mr. Evans yr hanes i ni. Bu Mr. Benjamin Williams farw yn 1844 yn 71 mlwydd oed.

Y cyfaill yn 1829 ydoedd y cymeriad hynod, Jenkin Harry. Pan ar ei ffordd i'r Gogledd y tro hwn cyfarfyddodd Mr. Evans â Mr. Michael Roberts, yr hwn oedd yn dychwelyd adref o Gymdeithasfa Caerfarchell, mewn deg o fanau, a chyd-bregethent; y ddau gyfaill yn dechreu yr oedfeuon ar