Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ail. Adroddai Mr. Evans iddo gael oedfa hynod hwylus yn Machynlleth, ac ar ei diwedd dywedodd Jenkin Harry wrtho, "O 'machgen anwyl i, mae yn dda gen' i, ti a'i curaist ef heno o ddigon." Un diwrnod yn nghwrs y daith, safodd Jenkin i roddi ychydig elusen i ddynes druenus yr olwg arni, a gwnaeth y sylw, "Creadur Duw oedd hona." "Ie, ond yn eich gwlad eich hun, ac nid mewn gwlad estronol fel hon, y dylech wneud peth fel yna, Siencyn," meddai Mr. Evans wrtho. Eithr yr unig ateb a roddai y cyfaill oedd, "Creadur Duw oedd hona," gan ail adrodd y geiriau mewn tôn haner cwynfanus. Yn un lle cafodd Jenkin Harry hwyl annghyffredin wrth bregethu. Ar eu ffordd i'r lle nesaf, safodd ychydig ar ol Mr. Evans, gan sibrwd yn duchanllyd, a dywedodd, "Cwrdd puwr, a dim ond chwe' cheiniog." "Beth sydd y mater 'nawr, Siencyn?" "Cwrdd puwr." "Ie, ond beth am hyny?" "Cwrdd puwr, a dim ond chwe' cheiniog." Gŵr o dymerau bywiog oedd Jenkin Harry; buasai yn ddyn gwyllt ac yn dilyn oferedd cyn ei droedigaeth gwnaeth gras lawer o drefn arno, ond parhaodd yn gymeriad hynod. Ceir cyfeiriadau pellach ato yn ysgrif y Parch. W. Williams, Abertawy, dan y penawd " Bro Morganwg," yn y Drysorfa am 1860.