PENOD VII.
1831-1836.
CYNWYSIAD.
Mr. William Evans am ddau fis yn Llundain-Llythyr y Parch. R. Hughes, Uwchlaw'rffynon-Cymdeithasfa Tredegar, 1831-Cofnodau Cyfarfod Misol Morganwg-Ymweliad â Bristol, Rhagfyr 1831Agoriad capeli Penllin a'r Eweni a Llysyfronydd-Cymdeithasfaoedd a Chyfarfodydd Misol 1832-Taith i'r Gogledd yn 1833 gyda Mr. John James, Penybont-Cymeriad ac ychydig o hanes Mr. JamesCymdeithasfa Casgwŷs-Agoriad capeli Pontypridd a BryntirionCystudd yn Rhagfyr 1833-Dau fis yn Llundain, 1834-Cymdeithasfa Tyddewi-Mis yn Bristol-Pumed taith i'r Gogledd-Cymdeithasfa'r Bala, 1835-Mr. Evan Morgan, Caerdydd-Taith trwy siroedd Penfro ac Aberteifi-Cymdeithasfa Nantyglo-Agoriad capeli Merthyr a Soar —Llwyddiant yr achos yn Morganwg-Cymdeithasfaoedd Pontypridd a Crughowel, 1836-Mis yn Bristol.
Rydym wedi gweled mai y gorchwyl cyntaf y galwyd Mr. Evans ato yn y flwyddyn 1831 ydoedd i fyned i Ferthyr gyda thri o frodyr ereill, i ail gorffori yr eglwys yn Mhontmorlais. Aeth yno i gadw cyfarfod eglwysig nos Sadwrn y iaf o Ionawr. Dranoeth, ar Sul yr 2il, yr oedd yn nhaith Llanfabon, Ystradmynach, a Chaerffili; a bore dydd Llun am 10 yr oedd yn angladd Mr. Evan Morgan, Caerdydd, tad y gweinidog o'r un enw a'i frawd doniol Mr. Thomas Morgan. Nid oes dim neillduol i'w grybwyll yn mhellach am fis Ionawr. Ar yr ail a'r 3ydd o Chwefror cynelid y Cyfarfod Misol yn yr Aberthyn a'r Bontfaen, lle y "cydunwyd i ddanfon Wm. Evans i London am ddau fis." Yn unol a'r penderfyniad hwn yr ydym yn cael Mr. Evans yn myned i fyny i'r brif-ddinas trwy Gasnewydd a Bristol, ac yn cyraedd yno am II o'r gloch bore dydd Gwener yr 11eg, ac arosodd hyd ar ol y Sabboth cyntaf yn Ebrill. Yr oedd Mr.
[graphic] Pregethai dair
Jeffrey Davies gydag ef am ran o'r amser. gwaith ar y Sabbothau; ac yr oedd yn Jewin, neu y Cambrian, neu Denmark Street, yn mron bob nos o'r wythnos, naill ai yn pregethu, neu mewn cyfarfodydd gweddi, neu yn cadw society. Eithr mynodd un noswaith rydd, sef y 9fed o Fawrth, i fyned i wrandaw Mr. Howells, Longacre. Y mae yn hyfryd iawn genym i allu gosod i mewn yma lythyr oddiwrth un ag oedd yn byw yn Llundain y pryd hwnw, ac sydd yn cofio yn dda am weinidogaeth Mr. Evans yn yspaid ei ail ymweliad hwn â'r brif-ddinas, ac yn ŵr ieuanc yr adeg hono, eithr bellach er ys llawer o flynyddoedd yn adnabyddus fel y Parch. Robert Hughes, Uwchlaw'rffynon, swydd Gaernarfon; ac yr ydym yn wir yn dra diolchgar iddo am y llythyr sydd yn canlyn:
[ocr errors] "Uwchlaw'rffynon, Chwilog, R.S.O.,
Chwefror 1ofed, 1891.
Anwyl Frawd,-Yr wyf yn un o'r miloedd a deimlant hiraeth a chwithdod mawr trwy Dde a Gogledd Cymru pan yn clywed am farwolaeth yr hybarch hen batriarch William Evans, Tonyrefail, er fod hyn i'w ddysgwyl yn ol trefn natur. * * *Nid wyf yn cofio dim am dano hyd y flwyddyn 1831, pan oedd yn gwasanaethu am y tymhor arferol yn Llundain, a minau yno yn ddyn ieuanc ar y pryd; a dyna yr adeg mwyaf pwysig ar fy mywyd, oblegyd dyna y pryd yr ymunais gyntaf â chrefydd. Yr wyf yn cofio yn dda y seiat gyntaf i mi erioed fod ynddi oedd yn Jewin Crescent, a'ch tad yn un o bump o bregethwyr oedd yn fy holi ar y pryd, a phob un o honynt yn treio ei law arnaf a hyny yn bur gignoeth, yn ol arfer y dyddiau hyny; ac yr wyf yn meddwl mai eich tad oedd y tyneraf o honynt oll. Mae yr amgylchiad yna yn fyw iawn yn fy meddwl hyd yma. Yr oeddwn yn cael y fath flâs ar ei bregethu, fel yr wyf yn meddwl na chollais yr un oedfa tra y bu yno. Ond un tro neillduol teimlais i mi gael bendith, os cefais fendith mewn pregeth erioed. Y pryd hwnw yr oedd yr anffyddiaid yn gwneud
cynhwrf mawr yn Llundain, yn dadleu gyda'r hen Dr. Bennet, yn gwasgaru traethodau, ac yn defnyddio pob moddion yn eu gallu i ddileu dylanwad Cristionogaeth, a llithio eneidiau anwadal; ac yr oeddynt yn llwyddo i hudo a dyrysu lluaws, yn benaf ieuenctyd, a minau yn yr adeg mwyaf peryglus rhwng 18 ac 20 oed. Yr oedd annghrediniaeth bron fy llethu. Yr oeddwn mewn ymdrechfa er ys wythnosau, ac weithiau bron ildio, gan feddwl pe buaswn wedi cael crefydd iawn, na fuaswn yn cael fy nirdynu mor ofnadwy. Ac yn nghanol yr ymladdfa galed aethum i Jewin nos Sabboth i wrandaw ar Mr. Evans yn pregethu. Ei destyn oedd yn yr Epistol at yr Hebreaid,—' Ac yr ydym ni yn gweled na allent hwy fyned i mewn o herwydd annghrediniaeth?' Sylwodd yn gyntaf yn nacaol, nad ydyw teimlad byw o annghrediniaeth yn brawf o hono, ond yn hytrach yn y gwrthwyneb mai y credadyn sydd yn cael ei boeni fwyaf o'r herwydd. Bu y fath fendith i mi ar y bregeth hon, fel na phoenodd y gelyn creulawn hwn ryw lawer arnaf wedi hyny.
"Yr wyf yn cofio yn dda am dano yn dyfod ar daith trwy y wlad yn 1833. Yr oedd ei weinidogaeth yn bur effeithiol. Yr oedd y diwygiad grymus yn ei wres y pryd hwnw. Cafodd oedfa rymus iawn yn Ysgoldy Pen-cae-newydd, oddiar y gair 'cadw enaid rhag angau.' Mae son am dani gan yr hen bobl hyd heddyw. Am ei daith yn 1855, yr oedd ei ddyfodiad a'i bregethau yn gymeradwy iawn, llawer yn cael adeiladaeth a mwynhad mawr. Mae ei weinidogaeth yn perarogli yn y wlad hyd heddyw. Gan gofio yn
garedig atoch,
"Mr. D. EVANS."
"ROBERT HUGHES.
Er fod y rhanau diweddaf o'r llythyr dyddorol hwn yn rhagflaenu yr hyn ag y bydd genym gyfeiriadau pellach atynt yn mhellach yn mlaen yn y Cofiant, eto barnasom mai gwell dodi i fewn y llythyr yn gyfan fel y mae uchod. Y nos Sab