Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GOFIANT Y PARCH.

WILLIAM EVANS, TONYREFAIL.


PENOD I.

CYNWYSIAD.

Ei enedigaeth—Enwau ei rieni—Ei daid, Evan David o'r Rhagat —Tŷ Cwrdd y Cyfeillion—Teulu y Rhagat—Mrs. Taylor—Morgan David, Ty'nwaen—Ei dad, David Evan, Garthgraban—Ei ymuniad â chrefydd —Tonyrefail—Mrs. Prichard, Collena—Priodas David Evan ac Elisabeth Morgan—Melin Treferig—Garthgraban—Cymeriad Mrs. Evans—Hanes David Evans : ei lafur gyda'r achos yn Tonyrefail; ei gyd—flaenor Isaac James—Marwolaeth David Evans—Teulu y Garthgraban —Yr ŵyrion a'r orŵyrion — Crefydd yn glynu yn yr hiliogaeth.

GANWYD y Parchedig William Evans, Tonyrefail, ar un o ddyddiau olaf mis Ebrill, 1795, mewn amaethdy o'r enw Garthgraban Fach, yn mhlwyf Llantrisant, swydd Forganwg. Efe oedd fab ieuangaf, a'r ieuangaf ond un o blant David ac Elisabeth Evan o'r lle hwnw. Yr oedd ei dad, David Evan, yn fab i Evan David o'r Rhagat—tyddyn bychan sydd yn sefyll ar y chwith i'r ffordd sydd yn arwain o Bontypridd i bentref Tonyrefail, ac o fewn haner milldir i balasdy Treferig. Wedi gadael Pontypridd y tu cefn i ni, a chychwyn i gyfeiriad y gorllewin, yr ydym yn esgyn i ben Rhiw—coedcae; ac yna yn troi ychydig ar y dde, ac wedi cerdded heol wastad am ychydig bellder (tua milldir), yr ydym yn disgyn dros Rhiwcraigylan i lawr at yr afon. Mychydd; ac ar ochr y ffordd, o fewn haner milldir i odre