Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y rhiw, yr ydym yn cael y Rhagat. Mae yr hen dŷ eto yn sefyll, ond nid oes neb yn byw ynddo; ac y mae'r tŷ a'r adeiladau ereill yn ei ymyl yn cael eu defnyddio at wasanaeth tyddyn arall cyfagos.

Yn y lle bychan dinod hwn yr oedd Evan David, tad David Evan, Garthgraban, a thaid y Parch. William Evans, yn byw yn nghylch cant a haner o flynyddoedd yn ol, ac yn dilyn y grefft o wniedydd. Yr oedd yn ddyn deallus a chrefyddol. Fe ddichon ei fod yn gymunwr yn eglwys Llantrisant, neu yn fwy tebyg yn y Capel Bach gerllaw Tonyrefail-pellder o tua milldir a haner o'r Rhagat. Wedi cyrhaedd godre Rhiwcraigylan, a chan adael Treferig ar y llaw dde, yr ydym yn croesi y Mychydd, ac yn myned heibio i ffermdy o'r enw Lawnd, ac yn esgyn i fyny at groesheol Ty-ar-heol, lle yr ydym yn dyfod i'r ffordd fawr sydd yn arwain o dref Llantrisant i gyfeiriad Cwm Rhondda ac Ystradyfodwg; ac wedi dilyn y ffordd hon heibio'r Pistylldu, Pantybrâd, y Brynhyfryd, a'r Gellidawel, am lai na milldir, yr ydym yn dyfod at yr Eglwysdy sydd yn myned dan yr enw Capel Bach, yr hwn a godwyd at wasanaeth trigolion cŵr uchaf plwyf Llantrisant. Y mae llan y plwyf tua phedair milldir o'r Rhagat. Yr oedd moddion crefyddol yn cael eu dwyn yn mlaen yn yr adeg hono hefyd mewn capel bychan perthynol i'r Cyfeillion, o fewn ychydig gaeau i'r Rhagat. Yr oedd y capel yn sefyll ar lan y Mychydd, tua milldir yn nes i dref Llantrisant na Threferig. Er nad oes genym hysbysrwydd am hyny, y mae yn dra thebyg y byddai Evan David yn myned i'r cynulliadau yno yn achlysurol. Mae y cyrddau yno wedi darfod er ys ugeiniau o flynyddoedd, a'r capel wedi ei werthu, a'i droi yn dŷ byw. Nid oes ond un darn o'r meddiant wedi ei gadw gan y Cyfeillion, sef y fynwent; ac ar faen a osodwyd yn un o'i muriau y mae y dyddiad 1690, sef yn ddiameu y flwyddyn y codwyd y capel. Ond er fod y fynwent yn parhau yn eiddo i'r Cyfeillion, nid yw yn ymddangos fod claddedigaeth wedi