Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymeryd lle ynddi er ys tri-ugain-a-deg o flynyddoedd. Mesuriad y capel ydoedd tua phymtheg-troedfedd-ar-ugain wrth ugain troedfedd; yr oedd oriel un ochr iddo, ac y mae gwaelod yr hen oriel yn awr yn rhan o lawr llofft y tŷ byw y trowyd y capel iddo, a'r hwn sydd yn aros dan yr enw Tŷ cwrdd y Cwacers.

Pa un a fu Evan David o'r Rhagat yn mynychu y moddion yn nghapel y Cyfeillion ar lan y Mychydd, neu a oedd yn aelod yn y Llan neu y Capel Bach, sydd ansicr; ond y mae yn amlwg ei fod yn ŵr o dueddiadau ac yn dilyn arferion crefyddol. Yr oedd yn mhlith yr ychydig yn y cymydogaethau hyn y pryd hwnw ag oeddynt yn gallu darllen. Darllenodd lawer ar ei Feibl, ac y mae yn ymddangos ei fod yn dra hyddysg mewn hanesiaeth ysgrythyrol. Clywsom wyres iddo, sef y ddiweddar Mrs. Williams, Tydraw—merch a phlentyn ieuangaf ei fab David—yn dweyd iddo ddifyru llawer arni hi, pan yn blentyn, wrth adrodd iddi hanesion Beiblaidd. Yr oedd yr wyres yn cofio yn neillduol am dano yn myned dros yr hanes am Solomon a'i fawredd, ac am frenines y deau yn ymweled â Jerusalem, ac yn dychwelyd i'w gwlad ei hun, gan ddywedyd na fynegasid mo'r haner yr hyn a welodd. Y mae yr hanesyn canlynol yn egluro yn mhellach ei ddeall da a'i grefyddolder. Yr oedd ei fab David wedi cael ei wahodd i gynulliad o nodwedd ysgafn ac amheus. Hysbysodd y bachgen y peth i'w dad, gan amlygu tuedd i fyned. Agorodd y tad y Beibl, a darllenodd yn bwysleisio y gair, "Gwna yn llawen, ŵr ieuanc, yn dy ieuenctyd, a llawenyched dy galon yn nyddiau dy ieuenctyd, a rhodia yn ffyrdd dy galon, ac yn ngolwg dy lygaid: ond gwybydd y geilw Duw di i'r farn am hyn oll." Ac wedi darllen, ychwanegodd, "Os galli di fyn'd yn awr, cerdda." Cafodd ei ddull difrifol yr argraff ddymunol ar y mab, yr hwn mewn canlyniad nid aeth i'r cynulliad y gwahoddasid ef iddo, ac fel y cawn weled, a amlygodd yn gynar yn ei fywyd yr un ysbryd crefyddol ag oedd yn meddiant y tad.