Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd ei ŵyr, William Evans, yn coleddu meddwl uchel am dano. Un o'r troion diweddaf y gwelsom ef, dywedai, "Hen ŵr neis iawn oedd fy nhadcu." Yn mlynyddoedd olaf ei fywyd yr oedd yn cartrefu yn Nhŷ'rgraig, ar dir Garthgraban, lle y bu farw yn gyflawn o ddyddiau.

Yr oedd teulu y Rhagat yn gynwysedig o dri o feibion a dwy o ferched. Enwau y merched oeddynt Elisabeth (Bess) a Mary. Aeth y ddwy oddi cartref yn ieuanc i wasanaethu —un o honynt yn Llundain. Priododd y ddwy yn dda—y naill, sef Elisabeth, â swyddog milwrol o'r enw Taylor. Bu gyda'i gŵr am ddeuddeg mlynedd yn yr Iwerddon; ac o'r amser yr aeth gyntaf oddi cartref hyd ei dychweliad i breswylio yn ei hardal enedigol ar ol marwolaeth Mr. Taylor, yr oedd yn llawn ddeng mlynedd—ar—ugain; ond cadwodd ei Chymraeg, yn benaf (fel yr adroddwyd i ni) trwy ei gwaith yn arfer siarad yn yr iaith hono wrth ei châth. Ar ol dychwelyd adref yn weddw, bu fyw am beth amser yn ymyl ei brawd David, yn y Garthgraban Fawr, ac yna symudodd i drigianu yn nhref Llantrisant, lle y diweddodd ei hoes. Y chwaer arall a briodwyd â chadben llong, o'r enw Davies, a ganwyd iddi ddwy o ferched; a bu yn preswylio am flynyddau yn Abertawy, lle hefyd y bu farw. Yr oedd y ddwy chwaer yn wragedd o synwyr cryf, ac yn meddu graddau o foneddigeiddrwydd naturiol mwy na chyffredin; ac y mae yn sicr i addysg grefyddol eu cartref yn y Rhagat adael argraff a lynodd wrthynt dros eu holl fywyd, a therfynu, fel y mae pob lle i gredu oddiwrth yr hyn a glywsom am danynt, yn iachawdwriaeth iddynt.

Mewn perthynas i feibion Evan David, bu un o honynt farw yn ieuanc. Y nesaf ydoedd Evan, yr hwn a ymsefydlodd yn ei gymydogaeth enedigol, a chafodd deulu lluosog; bu farw yn y Castella Fach—lle i'r deau o'r Rhagat yn nghyfeiriad tref Llantrisant. Mab iddo ef ydoedd y diweddar Morgan David, Ty'nwaen, Llanilltyd Fardre, ac yr oedd yn aelod o'r eglwys Fethodistaidd yn Mryntirion. Dywedir