Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nad oedd ynddo fawr dawn, ond y mae un gair o'i eiddo a adroddwyd i ni ag sydd yn werth ei gadw mewn coffadwriaeth. Os dygwyddai y cyfarfod eglwysig fod yn drymaidd ——yr olwynion yn troi yn afrwydd, ac feallai yn sefylldywedai Morgan David, "Frodyr, cer'wch i mewn i'r trysorau, mae yna ddigon o honynt." Mab arall i Evan David ydoedd Hopkin David, yr hwn a ymsefydlodd yn y Castella Fach, ar ol marwolaeth ei dad. Yr oedd mab arall o'r enw William, a merch o'r enw Jane. Y mae amryw yn perthyn i'r gangen hon o'r teulu mewn gwahanol fanau yn Sir Forganwg, a rhai wedi ymfudo i America ac Awstralia. Y mab arall o'r Rhagat ydoedd David, yr hwn, yn lle ymgyfenwi yn David David, a ddilynodd yr hen drefn Gymreig, trwy gymeryd enw cyntaf ei dad fel ei gyfenw, ac felly y daeth i gael ei alw yn DAVID EVAN.

Ganwyd David Evan yn y flwyddyn 1757. Pan yn fachgen, danfonwyd ef i un o Ysgolion Rhad Cylchynol y Parchedig Griffith Jones, Llanddowror, yr hon a gynelid ar y pryd yn y Castella, o fewn tua dwy filldir i'r Rhagat, lle y dysgodd ddarllen ac ysgrifenu yn dda, ac fe ddichon hefyd i rifyddu. Dygwyd ef i fyny i ddilyn galwedigaeth ei dad. Yr ydym eisioes wedi gweled fod Evan David yn ofalus am foesau da ei blant, a'i fod yn eu hyfforddi yn mhen eu ffordd, trwy eu maethu yn addysg ac athrawiaeth Gair Duw. Mae yn ddiameu iddo adrodd llawer o hanesion Beiblaidd yn nghlywedigaeth ei blant, fel y gwnaeth ar ol hyny i'w wyres fechan, Margaret Evan, o Garthgraban. Yr ydym hefyd wedi cael prawf fod y mab, David Evan, er yn ieuanc yn agored i ddylanwad da. Bu darlleniad adnod o'r Ysgrythyr, yn nghyda difrifwch ei dad, yn ddigon i'w rwystro i fyned i gyfeillach a allasai fod yn niweidiol iddo. Eithr yn fuan iawn fe gafwyd prawf helaethach fod mwy na pheth daioni yn y mab ieuanc o'r Rhagat. Elai yn achlysurol i gapel y Cyfeillion. Clywsom ei fab ieuangaf yn adrodd iddo un tro fyned yno i gyfarfod gweddi, ac i ddaeargryn gymeryd lle ar