Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y pryd yr oeddynt yn y tŷ—cwrdd. Dro arall, yr unig beth a ddygwyddodd yn y gwasanaeth ydoedd i wraig gael ei chynhyrfu i lefaru. Eithr yn yr adeg yr ydym yn awr yn cyfeirio ati, sef yn nghylch y flwyddyn 1770, dechreuodd y Methodistiaid bregethu ar Donyrefail; ac yr oedd David Evan yn un o'r rhai cyntaf a attynwyd i'w gwrandaw. Y mae Tonyrefail yn nghylch haner milldir i'r gorllewin o'r Capel Bach y cyfeiriwyd ato uchod, a thua dwy filldir i'r gogledd—orllewin o'r Rhagat. Ac fel y gallo y darllenydd sylweddoli safle y pentref ag y mae ei enw wedi bod yn gysylltiedig âg enw gwrthddrych y Cofiant hwn am ddegmlynedd—a—thriugain a throsodd, y mae i'w grybwyll ei fod yn sefyll ar y chwith i'r afon Lai, ac ar godiad tir yn gwynebu tua'r deau, ag sydd yn ei wneuthur yn lle serchog a dymunol: pum' milldir i'r gogledd o Lantrisant, a thair milldir i'r de—ddwyrain o'r Cymar a'r Porth yn Nghwm Rhondda. Tu cefn i'r pentref y mae palasdy bychan y Collena yn sefyll, ac yn y tŷ hwnw y dechreuodd y Methodistiaid gynal moddion crefyddol ar Donyrefail. Y boneddwr oedd yn byw yn y Collena, a pherchenog y lle, sef Evan Prichard, Yswain, a'i briod, fuont y prif offerynau i gychwyn yr achos Methodistaidd ar Donyrefail. Yr oeddynt wedi eu dwyn dan argyhoeddiad am eu hachos tragywyddol trwy weinidogaeth yr efengylydd enwog y Parch. David Jones, Llangan, yn fuan ar ol ei sefydliad ef yn 1768 yn y lle hwnw. Cawsant ganddo ef ac ereill o'r tadau Methodistaidd i fyned i bregethu yn y Collena; ac yn mhen ychydig iawn o amser fe ffurfiwyd yno eglwys. Yn y flwyddyn 1773, ymunodd David Evan â'r eglwys, pan nad oedd ond 16eg oed. Mae yn ymddangos iddo dynu sylw Mrs. Prichard yn fuan ar ol iddo ddechreu mynychu y cyfarfodydd, ac iddi ymholi pwy ydoedd y bachgen ieuanc parchus ei ymddangosiad a gweddaidd ei ymddygiad. Pan yr ymunodd efe â'r eglwys, nid oedd nifer yr aelodau ond ychydig, ac yr oeddynt yn mron oll yn wragedd. Yr oedd yr ychwanegiad atynt o ddyn