Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ieuanc, i bob ymddangosiad mor addawol, yn cael ei deimlo yn gaffaeliad nid bychan; a phrofodd felly mewn gwirionedd.

Ar y 6fed o Ebrill, 1777, priododd David Evan un o aelodau eglwys Tonyrefail, sef Elisabeth Morgan, merch i Richard Morgan, o'r Rhiw. Ar ol eu priodas buont yn byw am un-flynedd-arddeg yn ymyl Melin Treferig, ar lan yr afon Mychydd, a thua milldir a haner islaw palasdy Treferig, ac yn nghylch haner y ffordd rhwng Tŷ-cwrdd y Cyfeillion a'r Castella. Yn nghylch y flwyddyn 1788, symudasant o Felin Treferig i'r Tygraig, gerllaw Garthgraban; ac yn fuan wedi iddynt fyned i fyw yno, cymhellwyd hwy gan y perchenog, Mr. Humphreys, i gymeryd fferm y Garthgraban Fach. Yr oedd David Evan, trwy ei gymeriad da a'i ddiwydrwydd, wedi enill ymddiried ei holl gymydogion. Er mai digon prin oedd ei fyd yn cychwyn, trwy hwsmoniaeth dda a phenderfyniad, gyda bendith Duw ar ei amgylchiadau, daeth yn alluog, yn mhen tua thair blynedd wedi symud i'r Tygraig, i gymeryd y Garthgraban Fach. Parhaodd Rhagluniaeth i wenu arnynt, ac yn fuan iawn daeth David Evan yn un o amaethwyr mwyaf cyfrifol a llwyddianus yr holl gylchoedd. Mae tir Garthgraban yn gorwedd ar y chwith i'r afon Lai, ac yn ymestyn i gyfeiriad y Mychydd, ac yn agos i haner y ffordd rhwng Tonyrefail a Llantrisant. Mae y tyddyn yn ffurfio copa a rhan o lethrau clogwyn sydd yn myned dan yr enw Twyn Garthgraban. Saif y tŷ yn agos i ben y Twyn, oddiar yr hwn y mae golygfa eang a phrydferth i'w gweled. I'r dwyrain fe welir dros y cwm y rheda y Mychydd drwyddo, a rhai o'r amaethdai sydd yn britho ochr Castella; i'r deau mae Twyn Llantrisant yn amlwg, a'r dref yn sefyll ar ei ben, ac o'r naill du iddo fe geir cip golwg o'r Fro; tua'r gorllewin, yr ochr arall i gwm Lai, y mae Garthmaelwg yn sefyll, ac fe welir y Rhiw ac amryw ffermydd ereill; ac i'r gogledd, y peth agosaf atom yw cefn Tylcha, yr hwn sydd rhyngom â Thonyrefail, ac yn ein rhwystro i'w weled, ond fe welir dros gefn Tylcha at y drum uchel sydd yn gorwedd