rhwng Tonyrefail a Chwm Rhondda, ac y mae Craig y Ddinas yn y golwg, a'r agoriad sydd yn arwain yn mlaen heibio Tre'william at Benygraig a Ffrwdamos; ac ar y llethrau sydd yn ymgodi i'r gogledd—orllewin yr ydym yn gweled amryw dyddynod, ac yn eu plith Caercurlas Uchaf, at yr hwn y gwneir cyfeiriadau pellach mewn penod ddilynol. Yn y lle hwn y treuliodd David Evan ac Elisabeth ei wraig y gweddill o'u hoes. Bu farw Mrs. Evans ar y 26ain o Ionawr, 1822, yn 66 oed, a Mr. Evans ar y 9fed o Chwefror, 1834, yn 77 mlwydd oed.
Dynes fechan fywiog, neu i ddefnyddio geiriau ei mab ieuangaf, "sharp, smart," oedd Mrs. Evans, Garthgraban. Yr oedd yn ddiarebol am ei thynerwch a'i charedigrwydd. Nid oedd neb tlawd yn cael eu troi ymaith oddiwrth y tŷ heb dderbyn rhywbeth ganddi. Yr oedd un diwrnod wedi dangos cymwynasgarwch tuag at gymydoges mewn cyfyngder—Gwyddeles oedd wedi priodi milwr o Gymro, yn awr allan o'r gwasanaeth, ac wedi dychwelyd i'w ardal enedigol —a hyny yn helaethach nag y meddyliai ei gŵr y dylasai; ac wedi iddo yntau ddywedyd rhywbeth i'r perwyl hyny, ei hateb ydoedd, "Taw son, hi fu'n ddigon aflwcus i gwrdd â Twm." Y mae un o'i hwyrion wedi ysgrifenu am dani fel hyn,—"Yr oedd gweled rhai mewn eisieu yn beth annyoddefol i'w theimladau tyner. Byddai bob amser yn teimlo yn anfoddog iawn tuag at segurwyr, a byddai yn arfer meddwl am helwriaeth a rhedeg ar ol cŵn hela fel arferiad segur. Un diwrnod yr oedd nifer o helwyr yn myned heibio'r tŷ wedi dal cadnaw, a'r olwg arnynt yn lluddedig, a gofynasant am fara a chaws; gyda'r gair, dygodd hithau dorth a chosyn allan, a thafellodd hwynt rhyngddynt. Er mai cymeriadau digon gwael oedd rhai o honynt, yr oedd eu gweled hwynt mewn eisieu bwyd yn myned ar unwaith at ei chalon. Hefyd, os dygwyddai fod un o'r gweithwyr—er na fyddai yn rhan o'i gyflog i gael ei fwyd—mewn prinder ymborth gyda'i waith, yr oedd hi yn sicr o gael hyny allan, a gofalai am