Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddwyn tamaid i'r cloddiwr neu i'r dyrnwr caled yn yr ysgubor." Fel y dywedir am dani yn Methodistiaeth Cymru, "Yr oedd yn rhagori yn ei gras, ac yn rhinweddau ei rhyw.” (Cyf. iii. 74.) Yr oedd gyda chrefydd o flaen ei gŵr; ac am beth amser bu yr eglwys ieuanc ar Donyrefail yn gynwysedig yn unig o wyth o wragedd, ac yr oedd hi yn un o honynt : eu henwau oeddynt Mrs. Prichard (nid yw yn ymddangos i Mr. Prichard ymaelodi, er ei fod yn mhob modd yn gefnogol iddynt), Mrs. Jenkins, Jane Morris, Mary James, Jane Powel, Margaret Morris, Elisabeth Morgans, ac Elisabeth Morgan o'r Rhiw. Jane Morris oedd yn rhagori mewn dawn canu, Mary James mewn dawn gweddi, "a'r ddwy Elisabeth yn rhagori yn eu gwres a'u ffyddlondeb;" yn naturiol yr oedd yr arweiniad yn disgyn ar yr arglwyddes etholedig o'r Collena. Bu yr Elisabeth a briodwyd â David Evan o'r Rhagat, ac a ddaeth wedi hyny yn adnabyddus fel Mrs. Evans, Garthgraban, "yn wresog yn yr ysbryd," ac yn ffyddlawn hyd angeu. Bu farw yn orfoleddus, gan ddywedyd, "Pob peth sydd dda."

Crybwyllwyd eisioes fod Mrs. Evans yn ferch i Richard Morgan o'r Rhiw-tyddyn ar yr ochr orllewinol i'r Lai, tua milldir a haner o Donyrefail. Aeth ei thad yn ol yn y byd, a bu rhaid iddo werthu y lle, a symudodd i'r Dyffryn Isaf, gerllaw Llantrisant. Yn y flwyddyn 1770, aeth ei ferch Elisabeth, pan yn bedair-ar-ddeg oed, at Mrs. Prichard i'r Collena, i gynorthwyo gyda magu y plant. Tra yno y cafodd grefydd, ac yr ymunodd âg eglwys Iesu Grist; ac oddi yno y priodwyd hi ar y dyddiad a nodwyd. Chwaer iddi ydoedd Mrs. Bevan (Jane), mam y diweddar Richard Bevan, Caerdydd, ac Evan Bevan, Ynysallan, Llantrisant, a blaenor yn yr eglwys Fethodistaidd yn y dref hono am nifer maith o flynyddoedd. Chwaer arall iddi ydoedd Mrs. Davies (Margaret), Pencoed, Llanilid, mam Mrs. Evan Bevan, Ynysallan. Chwaer arall iddi (Barbara) oedd mam y diweddar Richard Jones o'r Hendy, gerllaw Miskin, ac wedi hyny o