Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Benybont-ar-Ogwr. Yr oedd iddi dair ereill o chwioryddAnne (yr hon a fu yn byw yn y Felin-newydd), a Mary, ac Alice; ac hefyd dau frawd, sef Richard a David, am y rhai nid oes genym ddim crybwylliadau i'w cofnodi.

Fel y canlyn y dywed awdwr Methodistiaeth Cymru am Mr. Evans o Garthgraban:-"Bendithiwyd ef â mesur helaeth o synwyr cyffredin, yn gystal ag â gras mawr i fod yn ffyddlawn. Codwyd ef oddiwrth y nodwydd a'r astell i fod yn un o'r tyddynwyr mwyaf cyfrifol yn y fro, ac yn un llawn cymaint ei ddylanwad a neb arall o fewn y plwyf. Ni oddef ein gofod i ni ymhelaethu, ond y mae y desgrifiad a ddyry ein hysbysydd o'r gŵr defnyddiol hwn yn ei ddesgrifio fel gŵr tra dyddorol. Gŵr craff ei lygad, parod ei ddawn, helaeth ei wybodaeth, heddychlon ei ysbryd, tawel ei dymer; mewn gair, yn grynhoad o rinweddau, fel ag i'w wneuthur yn oracl ei fro, at yr hwn y cyrchent am gyngor yn mhob dyryswch, ac i'r hwn yr ymostyngent mewn llawn ymddiried yn ei ddoethineb a'i onestrwydd.” (Cyf. iii. 74.) Yr “hysbysydd" y cyfeirir ato uchod ydoedd y diweddar Mr. Watkin Williams, Pencoed, yr hwn oedd ŵyr i Mr. Evans, Garthgraban, ac a glywsai gymaint am dano gan ei fam a pherthynasau ereill, ac hefyd ydoedd ei hunan yn ddigon hen i'w gofio. Buasai yn dra manteisiol pe buasai yr ysgrif a barotodd Mr. Watkin Williams ar gyfer Methodistiaeth Cymru wrth law. Y mae y crybwylliadau a wnaed eisioes mewn rhan yn egluro yr amlinelliad uchod o gymeriad tad gwrthddrych y Cofiant hwn.

Yn awr, ni a geisiwn yn mhellach i gyflenwi yr amlinelliad, ac i wneuthur y darluniad o'r hyn ydoedd David Evans, Garthgraban, yn fwy cyflawn. Mewn cysylltiad â'i amgylchiadau tymhorol yr oedd yn ofalus a diwyd, ac yn hynod drefnus, yn gweled yn mhell yn mlaen, ac yr oedd bob amser yn brydlawn. Pan y cymerodd fferm y Garthgraban, cafodd nid ychydig o gymhorth gan ei gymydog, Thomas Davies, Craigfathew, yr hwn, yn ol traddodiad yr ardal, oedd yn