Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

berchen "pedwrau aur." Yr oedd gan Mr. Davies yr ym.. ddiried llwyraf yn Mr. Evans. Yn y drafodaeth rhyngddynt gofalai yr olaf yn fanwl i gadw at ei air; a gallai fyned pryd y mynai i Graigfathew am fenthyg tra y bu angen am hyny. Gyda golwg ar hyn yr oedd yn ddywediad gan David Evans —"Gofalwch am eich gair, a chwi ddewch i fyny wedi hyny." Fel yr oedd ei deulu yn lluosogi, a'i feibion yn tyfu i fyny i'w gynorthwyo, cymerodd diroedd ereill y naill ar ol y llall i'w hamaethu, yn ychwanegol at y GarthgrabanCraig—y—llan, Bragdy Llantrisant, Dyffryn Isaf, y Lâc, gerllaw Pontfaen, a rhan o dir Collena. Bu yn ffodus i gael rhai o'r lleoedd hyn ar brydles ac ar delerau manteisiol. Yr oedd yn amaethu yn dda, ac am hyny yr oedd y tiroedd yn gwella dan ei law; ac fe gafodd hefyd y fantais bwysig i brisiau pethau godi. Yr oedd yn dal Garthgraban ar brydles oddiwrth y perchenog, yr hwn oedd yn byw yn y Garthgraban Fawr. Un tro gwnaeth y tir—feddianydd gynyg beiddgar tuag at gael mwy o ardreth oddiwrth ei ddeiliad na swm y cytundeb. Yr oedd David Evans wedi myned i dŷ y meistr tir i dalu y rhent, a gosododd yr arian ar y bwrdd o'i flaen. Ysgrifenodd y perchenog ddangosiad am yr arian, eithr yn lle ei roddi yn llaw ei ddeiliad taflodd ef ar y tân, gan olygu hefyd i gymeryd yr arian, ac felly gwneud i'r deilad dalu ei rent eilwaith; ond ar darawiad amrant gwelodd David Evans y peth—tynodd yr arian oddiar y bwrdd i'w het, a brysiodd i gymeryd y papyr oddiar y tân, ac er ei fod mewn rhan wedi llosgi, cafodd ei fod yn dystiolaeth ddigon eglur a sicr ei fod wedi talu yr ardreth, ac aeth adref. Dilynwyd ef gan wraig y boneddwr, yr hon a ymbiliai arno am yr arian. Ei unig atebiad ar y pryd ydoedd, "Mi gymeraf amser i ystyried y peth." Eithr ni fu yn hir cyn dychwelyd yr arian. Mae yr engraifft hon yn dangos mai nid dyn i gellwair âg ef oedd David Evans, Garthgraban. A dyma esiampl arall sydd yn egluro nid yn unig ei gyflymder, ond hefyd ei annibyniaeth ysbryd. Un diwrnod, danfonodd