Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Y mae gan Dafydd Evan saethau, ond y mae nhw yn y cwmwl; 'does neb yn eu gweled nes y b'o nhw yn glynu ynoch." Yr oedd y gŵr hwn yn aelod o eglwys Tonyrefail, ac ar un achlysur bu annghydfod rhyngddo ac aelod arall o'r enw Jenkin Rhydderch, a bu geiriau càs rhyngddynt. Dygwyd yr achos ger bron yr eglwys; ac yn yr ymdriniaeth, ar ol i Jenkin Lewis ollwng allan luaws o ymadroddion cryfion mewn nwydau gwyllt o flaen y brodyr, gwnaeth Rhydderch y sylw, "fod gair fel hyn yn rhywle—'Gochelwch gŵn,' a bod yn rhaid iddo yntau ofalu rhag cael ei larpio," gan feddianu ei hun yn hollol, heb gael ei gynhyrfu i'r graddau lleiaf gan yr hyn a ddywedasid gan ei gyd—aelod. Ond atebwyd ef yn y fan gan y blaenor,—“ Ie, ci yw y spaniel, a chi yw'r watci; pwy wahaniaeth sydd rhyngddynt ? ci yw'r nail a chi yw'r llall, ac nid lle i gŵn yw tŷ Dduw." Bu y geiriau hyn yn derfyn ar y cweryl. Fe ddichon mai ar yr achlysur hwn, neu yr ydoedd yn flaenorol i gyfarfod eglwysig pan yr oedd rhyw fater arall o ddysgyblaeth i ddyfod ger bron, y dywedodd Mrs. Prichard, Collena, wrtho, "Dafydd, rhaid i ti dynu dy fenyg velvet oddiar dy ddwylaw heno." Hynaws ydoedd ei ddull cyffredin ef, yn gynyrch naturiaeth serchoglawn, ac yr oedd yn hynod o enillgar ei ffordd wrth ymwneud â dynion. "Dyn hawddgar iawn ydoedd," fel y dywedai ei fab ieuangaf am dano. Bu hyn yn ddiau o wasanaeth mawr iddo yn ei ymdrech gydag ereill i sefydlu Ysgol Sabbothol ar Donyrefail. Mae yn ymddangos mai efe fu y prif offeryn i ddwyn hyny oddi amgylch, ac arno ef yn benaf y disgynodd y gwaith o ddwyn yn mlaen yr Ysgol, yr hyn a wnaed gyda graddau helaeth o lwyddiant. Yr oedd wedi etifeddu archwaeth at wybodaeth Ysgrythyrol oddiwrth ei dad, ac y mae yn ddiameu iddo gael symbyliad yn yr un cyfeiriad yn yr ysgol gylchynol y bu ynddi yn Nghastella; ac ni bu efe na segur na diffrwyth mewn ymdrech i helaethu ei wybodaeth o Air Duw. Yr oedd yn dra hyddysg yn amseryddiaeth y Beibl. Darllenodd lawer hefyd