Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar weithiau Gurnall, a Williams, Pantycelyn, a rhai awdwyr ereill. Meddai fwy o wybodaeth gyffredinol na'r rhan amlaf o'i gymydogion, ac yr oedd ganddo hoffder neillduol at sêryddiaeth. Y mae yn hawdd deall gan hyny ei fod "yn oracl ei fro;" neu fel y dywedai ei fab ieuangaf, "Y dyn pertaf yn yr holl wlad oedd fy nhad." Gellir cymhwyso ato y geiriau hyny, "Yr oedd yn ddoeth o ymadrodd hefyd," neu yn ol y cyfieithiad Saesneg, "yn gall mewn materion" (prudent in matters). Yr ydoedd yn arbenig felly gyda golwg ar bob math o amgylchiadau mewn bywyd; a chydnabyddid ef gan ei holl gymydogion fel cynghorwr doeth a dyogel. Adroddir iddo unwaith gynghori pâr ieuanc newydd briodi fel hyn,—"Chwythed y gwynt fel y myno, ond peidiwch byth ei adael i chwythu rhyngoch." Clywsom wyres iddo yn adrodd hanes am dano yn cynghori pregethwr ieuanc gyda golwg ar lywodraethiad ei lais. Y pregethwr ydoedd y diweddar Mr. John Davies, Casnewydd—ar—Wysg. Dygwyddai fod yn pregethu ar noson waith yn Llantrisant, ac yr oedd y blaenor o Garthgraban yn bresenol yn yr oedfa. Ar ol y bregeth yn y llety, sef yn nhŷ ei ferch hynaf (Mrs. Morgan), cafodd gyfleusdra i ymddyddan â'r pregethwr ieuanc, a dywedodd wrtho, "Mae yn ddiameu eich bod yn ddifrifol iawn yn eich pregeth heno, ond yr oeddych yn dodi gormod ar eich llais; byddai eich pethau yn fwy effeithiol ond i chwi gadw eich llais dan fwy o gymedrolaeth; y mae eisieu doethineb mewn gwaeddi." Cymerwyd y cyngor yn garedig gan Mr. Davies —nid oedd ond newydd dechreu pregethu ar y pryd—ac ni bu y cyngor yn anfuddiol iddo dros ei oes.

O herwydd lluosowgrwydd ei ofalon amgylchiadol nid elai Mr. Evans, Garthgraban, ond yn anfynych i Gyfarfod Misol ei sir, ac ni welid ef nemawr byth mewn Cymdeithasfa Chwarterol. Mewn cyfeiriad at hyn gofynwyd unwaith i'w fab ieuangaf gan y Parchedig Ebenezer Morris, "Onid oes modd i ni gael gan eich tad i ddyfod i'r Cymdeithasfaoedd?" Ond yn ei gartref bu yn ffyddlawn hyd y diwedd. Yr oedd