Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn cadw y ddyledswydd deuluaidd yn ddifwlch, foreu a hwyr, yn ei dŷ ei hun; ac arferai yr un manylrwydd, diwydrwydd, a deheurwydd gydag achos crefydd ar Donyrefail ag oeddynt mor amlwg ynddo gyda'i amgylchiadau tymhorol. Fel y gwelsom eisioes, collodd ei briod yn y flwyddyn 1822, ac yn mhen pedair blynedd wedi hyny collodd ei olwg, ac felly bu yn ddall am yr wyth mlynedd olaf o'i fywyd. Erbyn hyny yr oedd yr oll o'i blant wedi priodi, ac un o'i feibion a'i deulu yn cartrefu gydag ef yn y Garthgraban. Eithr os collodd ei olwg ni chollodd dim o'i graffder; nid oedd dim yn cael dianc heb ei fod ef yn mynu ei wybod. Parhaodd mewn meddiant llawn o'i gyneddfau hyd y diwedd. Bu farw mewn tangnefedd. Ei eiriau diweddaf oeddynt, "Mae yn dda i mi fy mod wedi gwneuthur cyfamod â'r Arglwydd cyn yn awr." Claddwyd ei weddillion yn yr un bedd a'i briod, yn mynwent y plwyf, lle hefyd y claddesid pedwar o'u plant.

Ganwyd i David ac Elisabeth Evans ddeuddeg o blant. Bu farw pedwar o honynt yn ieuanc, sef Richard, Mawrth 15fed, 1787, yn dair mlwydd oed; Richard, Gorphenaf 5ed, 1788, yn naw mis oed; Evan, Gorph. 2il, 1789, yn dair mlwydd oed; ac Alice, Medi 9fed, 1798, yn 13eg oed. Yr wyth ereill a dyfasant i fyny, ac a ddaethant yn benau teuluoedd, a chawsant (gydag un eithriad) fyw i oedran teg. Yr hynaf oedd Mary, yr hon a briodwyd â Richard Morgan, Llantrisant, ac un o flaenoriaid yr eglwys Fethodistaidd yn y dref hono, a chafodd ddeuddeg o blant. Bu farw Mawrth 14eg, 1848, yn 70 mlwydd oed. Un o'i geiriau diweddaf ydoedd, "Yr wyf wedi cael yn ol yr addewid." Yr ail ydoedd David, yr hwn a ymsefydlodd yn Bragty Llantrisant, un o'r lleoedd a ddaliasid gan ei dad. Bu ei gartref, fel eiddo ei chwaer, yn llety i'r pregethwyr a elent i Lantrisant am flynyddoedd lawer. Yr oedd ei deulu yn gynwysedig o bump o feibion, a mab i un o honynt ydyw yr Henadur David Evans, Llundain, a'r Arglwydd Faer am 1891—1892. Bu farw yn y flwyddyn 1826, yn 47ain oed. Y trydydd oedd Thomas, yr hwn ar ol