Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei briodas a fu yn trigianu am beth amser yn y Dyffryn Isaf, ac yna am y gweddill o'i oes yn Cornel Parc—lle tua milldir a haner y tu deau i Lantrisant, ar ochr dde y ffordd fawr i Gaerdydd. Daeth yn un o brif dyddynwyr ac yn un o'r dynion mwyaf cyfrifol a dylanwadol yn yr holl gylch. Yr oedd yn ŵr o alluoedd naturiol annghyffredin. Yr oedd yn hynod o hyfforddus a medrus yn ei holl drafodaethau gyda phawb y deuai i gyffyrddiad â hwynt. Edrychid i fyny ato gan bob dosbarth o'i gydwladwyr, a bu am flynyddoedd yn cael ei ystyried yn brif ddyn ei blwyf. Y mae rhai o'i eiriau yn aros ar lafar y wlad hono. Er engraifft: yr oedd un dydd Sadwrn yn Nghaerdydd yn gwrandaw ymddyddan ar faterion amaethyddol, a gofynwyd am ei syniadau yntau, pryd yr atebodd, "Yn Cornel Parc yr wyf fi yn ffermu." Dro arall, ar ddydd marchnad, yn Mhontypridd, gofynwyd iddo i fyned gyda nifer o'i gyd—amaethwyr i giniawa yn un o brif dafarndai y lle; ei ateb oedd, "Na, yn nhre' yr wyf fi yn hoffi byw yn dda, gyda Barbara a'r plant." Cododd deulu yn gynwysedig o wyth o feibion a dwy ferch. Bu farw ar y 9fed o Fai, 1857, yn 75 mlwydd oed. Pan aeth ei frawd ieuangaf i ymweled âg ef yn ei gystudd olaf, dywedodd wrtho, "Ymdrechwr da wyt ti, Billi, dywed air drosto' i." Yr oedd wedi ei dderbyn yn aelod eglwysig yn Llantrisant rai blynyddoedd cyn ei farwolaeth. Y nesaf o blant Garthgraban a dyfodd i fyny oedd Richard, yr hwn a briododd ei gyfnither o'r Ynysallan, a ganwyd iddynt ddeg o blant. Aeth i fyw yn Maesyfelin yn 1822; ac efe fu y prif offeryn i gychwyn yr achos Methodistaidd yn Nghapel Seion, Brynsadler—lle tua dwy filldir a haner i'r de—orllewin o Lantrisant, ar y ffordd i Bontfaen. Agorwyd y capel cyntaf yno yn 1829, a dewiswyd Richard Evans yn un o flaenoriaid cyntaf yr eglwys. Gŵr o deimladau bywiog, penderfynol ei ffordd, cydwybodol a chyson ei rodiad ydoedd; cadwai y ddyledswydd deuluaidd yn ddifwlch, a byddai yn mhob cwrdd yn y capel; mynychai y Cyfarfodydd Misol hefyd, ac yr oedd