yn dwyn mawr sêl dros drefniadau y Cyfundeb. Bu farw Ionawr 22ain, 1867, yn 77 mlwydd oed. Y nesaf ato ef oedd Susannah, yr hon a anesid Mehefin 28ain, 1792. Enw ei phriod oedd Morgan Morgan; ganwyd iddynt ddeuddeg o blant, y rhai oll a fagwyd i fyny ac a ddaethant yn benau teuluoedd, ac oeddynt hyd yn ddiweddar oll yn fyw. Bu Mrs. Morgan farw yn y flwyddyn 1867, yn 75 mlwydd oed. Y chwechfed o blant Garthgraban a dyfodd i fyny, a'r ddegfed o'r holl deulu, ydoedd Evan, yr hwn oedd y diweddaf o honynt i briodi, ac a arosodd gartref gyda'i dad, a bu efe a'i briod yn dyner iawn iddo ac yn dra gofalus am dano yn mlynyddoedd olaf ei fywyd, wedi iddo golli ei olygon. Mab, a phriod, a thad, a brawd hynod garuaidd ydoedd Evan Evans, yn llawn tynerwch fel ei fam, a bendithiwyd ef yn helaeth âg ysbryd crefydd. Gwasanaethodd yr achos yn Nhonyrefail fel blaenor am lawer o flynyddoedd. Nifer ei deulu ef oedd wyth o blant. Bu farw Mehefin, 1880, yn 86 mlwydd oed. Y nesaf o'r teulu oedd WILLIAM, gwrthddrych yr hanes sydd yn dilyn. A'r ieuangaf oedd Margaret; daeth yn briod i un Thomas Williams, brodor o sir Frycheiniog, ac ymsefydlasant mewn tyddyn yn ardal Tonyrefail, ond a fuont am dros haner can' mlynedd yn Tydraw, Gelliwyon. Ganwyd iddynt ddeg o blant. Cyrhaeddodd Mrs. Williams yr oedran mawr o 86 mlwydd. Bu farw Mehefin 17eg, 1884. Iddi hi yr ydym yn ddyledus am hyny o hanes sydd genym am ei thaid, Evan David o'r Rhagat. Yr oedd ganddi gôf rhagorol. Cawsom y mwynhad o dreulio ychydig oriau gyda hi yn y Tydraw yn haf 1883; ac mewn atebiad i luaws o gwestiynau a ofynem iddi, adroddodd lawer o bethau am ei thad a'i brawd ieuangaf gyda dealldwriaeth a bywiogrwydd oedd mewn gwirionedd yn synedig. Fel ei thad a dau o'i brodyr, sef Richard ac Evan, bu yn ddall am rai blynyddoedd cyn ei marwolaeth. Dyoddefwyd y brofedigaeth gan y tri yn ostyngedig a dirwgnach, ac ymadawsant am wlad y goleuni yn gyflawn o dangnefedd.
Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/35
Gwedd