Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr ydym wedi gweled fod wyrion David Evans yn nifer mawr. Mae yr orwyrion yn genedlaeth luosog, ac erbyn hyn y mae eu plant a'u hwyrion hwythau yn amlhau yn fawr. Fe ddywedir fod deg-a-thriugain o'i ddisgynyddion yn bresenol yn ei gladdedigaeth. Yn mhen haner can' mlynedd ar ol ei farwolaeth, sef yn 1884, gwnaeth nifer o'i wyrion a'i orwyrion ymuno i osod careg newydd ar ei fedd, fel arwydd o barch i'w goffadwriaeth fel tad y teulu. Yr oeddid yn teimlo ei fod yn haeddu gwneuthur o honom hyn iddo. Yr oedd wedi gadael ar ei ol i'w had a'i epil y gynysgaeth oreu o "enw da." Yr oedd yn briod a thad serchog a charuaidd, ac eto yn ymgadw dan reolaeth barn dda; "yr oedd yn sense ac yn serch i gyd," chwedl ei fab ieuangaf. Yr oedd yn feddylgar ac ymadroddus, yn ddiwyd a darbodus, yn defnyddio i'r fantais oreu y cyfleusdra presenol, ac yn gallu gweled yn mhell i'r dyfodol; a dysgodd y wers bwysicach o wneuthur y goreu o'r ddau fyd, a meddai gymeriad crefyddol cryf a chyfan.

Y mae yn llawenydd genym i allu ychwanegu fod gair o eiddo'r enwocaf o'r teulu-"fod crefydd yn rhedeg gyda'r gwaed, er nad trwy'r gwaed,"-wedi ei wirio yn helaeth yn nghenedlaeth wyrion yr henuriad o Garthgraban, ac yn parhau i gael ei wirio yn nghenedlaethau eu plant a'u hwyrion hwythau. Cafodd efe ei hun y fraint o fagu un pregethwr a dau flaenor. Yn mysg ei wyrion yr ydym yn cael dau weinidog yr efengyl, sef y Parch. William Morgan, periglor Llandderfel, a'r diweddar Mr. Watkin Williams, Pencoed; ac amryw o flaenoriaid-David Evans, Caerdydd; William Evans, Pendeulwyn; David Evans, Tonyrefail; William Williams a David Williams, Bryntirion; Evan Morgan, Croesfân; John Morgan, Bryngoleu, Llantrisant; Thomas Morgan, Llanilltyd Fawr; heblaw amryw wyresau amlwg eu duwioldeb, ac mewn gwirionedd yn ddiaconesau yn yr eglwysi y buont neu y maent yn perthyn iddynt. Yn mhlith yr orwyrion hefyd y mae un gweinidog a blaenoriaid