Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w cael, a llawer ereill sydd yn ddefnyddiol mewn cylch llai cyhoeddus gyda gwaith yr Arglwydd. Y mae arwyddion gobeithiol am y genedlaeth nesaf o'r teulu. Bu farw yn ddiweddar weinidog ieuanc oedd yn ŵyr i'w wyres-Mrs. Thomas, Bryntirion-sef Mr. William Thomas, gweinidog y Bedyddwyr yn y Coed-duon. Yr oedd yn bregethwr rhagorol, a dysgwylid pethau da am dano; ond y blodeuyn ar ei waith yn ymagor a syrthiodd yn yr angeu, a theimlwyd ei symudiad mor fuan ar ol ei gychwyniad allan gyda gwaith y weinidogaeth yn siomedigaeth drom. Y mae amryw perthynol i'r un genedlaeth ag y mae genym bob lle i gredu pethau da am danynt, ac i obeithio y byddant o wasanaeth i achos yr Arglwydd Iesu yn eu gwahanol gylchoedd. Eithr pa faint bynag ydyw ein dyled, y naill genedlaeth ar ol y llall, i'n hen-daid o Garthgraban, yr ydym dan rwymau i gydnabod, ac yr ydym yn gwneud hyny gyda diolchgarwch diffuant, fod gweinidogaeth ei fab ieuangaf-William Evans, Tonyrefail-am oes mor faith, dan fendith Duw, wedi cyfranu yn helaeth tuag at barhad crefydd a duwioldeb yn yr hiliogaeth. Efe a fedyddiodd lawer o honom, ac a weddiodd drosom wrth wneud hyny; a bu ei enw yn ddylanwad er daioni yn yr holl deulu, megys ag y bu ei weinidogaeth yn fuddiol a bendithlawn i laweroedd. Bellach yr ydym yn myned yn mlaen i gyflwyno ei hanes i'r darllenydd.