Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD II.

1795—1814.

CYNWYSIAD.

Dyddiad ei enedigaeth—Ei fedydd—Y Parch. R. Prichard a'i chwiorydd, Ladies y Ton"—Ei febyd—Yn pregethu i'w chwaer ieuangaf a phlant ereill Yn arwain yr ychain—Yn yr ysgol yn Mhontfaen—Ymladdau bechgyn y dref a bechgyn y wlad—Yn cymeryd gwersi gan Mr. Fred. Humphreys, Garthgraban Fawr—Gartref gyda'i dad yn gweithio ar y tir—Blynyddoedd ei ieuenctyd—Ei droedigaeth—Y Parch. Evan Jones.

NID oes sicrwydd hollol am y dydd o'r mis y ganwyd Mr. William Evans. Yr oedd efe ei hun yn ystyried ei fod yn cael pen ei flwydd ar yr 28ain o Ebrill. Ar y dyddiad hwn yn 1888, ysgrifenodd yn ei ddydd—lyfr ei fod yn 93 oed. Y mae pob sicrwydd am flwyddyn ei enedigaeth, canys y mae y cofnodiad o'i fedydd yn nghofrestriad y bedyddiadau perthynol i Eglwys Llantrisant, fel hyn:——"1795, June 30th, William, son of David Evans, Garthall, and Elizabeth ux". (1795, Mehefin 30ain, William, mab David Evans, Garthgraban, ac Elisabeth ei wraig.) Nid yn y llan modd bynag, ac nid gan offeiriad y plwyf y bedyddiwyd ef, ond yn y Garthgraban, a chyflawnwyd y gwasanaeth gan y Parch. Richard Prichard, mab hynaf Mr. a Mrs. Prichard, Collena. Hwn ydoedd y bedydd cyntaf i Mr. Prichard weinyddu ynddo; yr oedd newydd dderbyn ei lawn urddau fel offeiriad Eglwys Loegr. Oedwyd bedyddio y mab bychan o Garthgraban nes y byddai i hyny gymeryd lle, fel ag i Mr. Prichard gael gweinyddu yr ordinhad. Yr oedd y rhieni yn awyddus am hyny; ac y mae yn ymddangos fod mam anrhydeddus yr offeiriad ieuanc yn dymuno yr un peth, canys yr oedd cyfeillgarwch cynhes yn ffynu rhwng y teulu parchus o'r Collena a'r teulu o Garthgraban. Fel y gwelsom, buasai Mrs. Evans,