Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr olaf o honynt. Yr oeddynt yn cael eu galw a'u hadnabod fel "Ladies y Ton;" ac yr oeddynt yn ystyr eangaf y gair yn foneddigesau Cristionogol. Collasant eu tad ar y 19eg o Fawrth, 1795; felly bu Mr. Prichard, Collena, farw ychydig wythnosau cyn genedigaeth gwrthddrych y Cofiant hwn. Ei oedran yn marw oedd saith-a-deugain, ond cafodd Mrs. Prichard fyw i weled ei seithfed mlwydd a phedwar ugain; bu hi farw ar y cyntaf o Ionawr, 1834, sef ychydig wythnosau o flaen David Evans o Garthgraban. Er i'r ddau fab o Collena gael eu dwyn i fyny i fod yn offeiriaid yn Eglwys Loegr, dangosent bob amser y teimladau goreu tuag at y Methodistiaid, a pharhaodd eu cyfeillgarwch yn gynes gyda'r teulu o Garthgraban, ac yn enwedig gyda'r mab ieuangaf. Cafodd y Parch. Richard Prichard oes faith; bu am bymtheg—ar—ugain o flynyddoedd yn ficer Llandaf, lle y bu farw Hydref y бfed, 1856, pan o fewn i ychydig ddyddiau yn 84 mlwydd oed. Ganesid ef Hydref 13eg, 1772.

Wrth ystyried yr holl gysylltiadau rhwng y ddau deulu, yr ydoedd yn berffaith naturiol bod dymuniad am i fab ieuangaf Garthgraban gael ei fedyddio gan fab hynaf Collena. Ac felly y bu. Mae yn dywedyd yn dda am ryddfrydigrwydd Mr. Prichard iddo fyned i gyflawni y gwasanaeth yn nhŷ rhieni y plentyn ac y mae yn awgrymu rhywbeth am syniadau y gŵr o Garthgraban, ei fod yn dewis i'w fab bychan gael ei fedyddio heb ei gymeryd i eglwys y plwyf. Yr ydym yn gweled yma hedyn y rhyddfrydiaeth gref sydd yn ffynu yn y nifer luosocaf o gangenau y teulu. Cafwyd cyfarfod dedwydd a hwylus ar yr achlysur. Byddai Mrs. Prichard yn taeru (yr oedd hi yn bresenol yn y gwasanaeth), fod y plentyn wedi ei ail—eni ar y pryd. Y mae amheuaeth am hyny. Ond y mae pob sicrwydd i'r gweddiau a offrymwyd drosto ar y pryd gael eu hateb. Nid yw mewn un modd yn anmhosibl, yn wir y mae yn ddigon tebygol, iddo gael bendith pan y bedyddiwyd ef yn blentyn deufis oed a lynodd wrtho dros ei holl ddyddiau ar y ddaear.