Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tyfodd William Evans i fyny yn blentyn bywiog a chyflym, ac yn llawn chware. Nid oedd dim yn dianc ei sylw, ac yr oedd yn cofio pob peth. Daeth yn fuan yn amlwg ei fod yn sylwi yn fanwl ar bethau y capel, ac yn enwedig y pregethu. Gwelodd ei dad fod rhywbeth annghyffredin yn y bachgen, a dysgodd iddo, tra nad oedd eto ond plentyn, rai o emynau a darnau o "Ganiadau Duwiol" Williams, Pantycelyn. Yr oedd yn cofio yn dda yr hyn a ddysgai, ac yn gallu ei adrodd yn effeithiol. Ac mor fuan ag y gallodd ddysgu darllen, dechreuodd drysori y Beibl yn ei gôf. Pregethodd hefyd lawer iawn pan yn fachgen, ac yr oedd yn gwneud hyny gyda holl frwdaniaeth ei natur. Cynaliodd aml oedfa gyda'i chwaer ieuangaf a'i nithod hynaf o Lantrisant, ac weithiau byddai plant eu cymydog, Huw o'r Betw, yn gwrandaw. Un tro, wedi iddo roddi penill allan i'w ganu, yn lle canu torodd y gwrandawyr ieuainc allan i chwerthin, yr hyn a barodd i'r pregethwr bychan ddisgyn yn nwydwyllt o'i areithle i guro ei wrandawyr, fel (a defnyddio ei eiriau ei hun) ag i yru y cythraul allan o honynt. Pregethodd lawer hefyd wrtho ei hun mewn lleoedd unig. Clywsom ef ei hunan yn adrodd iddo bregethu llawer "yn grove Cae-derwen."

Yr oedd hefyd yn gantor rhagorol yn mron o'i febyd. Meddai ar lais o'r mwyaf peraidd; ac yr oedd yn hoff o ganu y darnau a ddysgid iddo gan ei dad. Un tro dygwyddodd fod ei gyfnither, merch ei fodryb (Mrs. Davies, Abertawy), ar ymweliad â'i pherthynasau yn y Garthgraban; a gwahoddwyd ef a'i chwaer ieuangaf i fyned gyda Miss Davies i dreulio prydnawn yn y Garthgraban Fawr. Ar ol tê yr oedd yn rhaid i William ganu. Gomeddai ar y cyntaf, a chafwyd peth trafferth i'w berswadio i wneud; ond o'r diwedd fe lwyddwyd, a chanodd ddarn o gân Williams ar "Dwyll y Byd," nes yr oedd yr holl gwmni yn wylo. Dyma y penill cyntaf o'r gân: