Megys llestr hen a drylliog
Ydyw'r byd ar fôr tymestlog;
Pleser braf yw edrych arno,
Ond peryglus iawn bod ynddo!
Os daw un i maes o'r tonau,
Ar ystyllen friwllyd, denau,
Fe glyw ' stwr ar y dw'r,
Dwndwr yr angau,
Draw yn mhell , gan ryw fyrddiynau,
Aeth yn iach i'r llestr gynau."
Cymerodd peth tebyg le ar achlysur arall mewn cynulliad o ieuenctyd. Yr oedd yn gyfarfod o natur ysgafn, a rhaid i bob un gyfranu rhywbeth mewn adrodd neu ganu tuag at y difyrwch; ac felly gosodwyd arno yntau i ganu, eithr nid oedd ganddo ef ddim i'w ganu o nodwedd ddigrifol y pethau oedd yn cael eu canu gan y lleill o'r cwmni, a dywedodd nas gallai efe ganu dim ond rhywbeth ag oedd ei dad wedi ei ddysgu iddo; ac fe ganodd ddarn o'r "Caniadau Duwiol," nes yr oedd pawb yn wylo yno hefyd ac yntau yn wylo gyda hwynt.
Yr oedd yn arferiad yr adeg hono, a pharhaodd am lawer o flynyddoedd wedi hyny, i aredig gydag ychain. Yr oedd yn rhaid cael arweinydd, a'i brif waith ydoedd canu i'r ychain. Gwnaeth William Evans lawer o'r gorchwyl hwn, ac yr oedd yn ei gyflawni yn ddoniol a difyrus iawn. Yr oedd yr anifeiliaid yn cael eu gwneuthur yn hollol foddus pan yn tynu yr aradr gan ei lais melodaidd a'i acenion melus. Fel rheol pethau o natur ysgafn, os nad o duedd isel, a genid i'r ychain wrth eu harwain o flaen yr aradr. Ond byddai ei ganiadau ef bob amser o nodwedd foesol, ac yn hollol bur o ran iaith. Yr unig engraifft sydd yn cael ei chofio o'r pethau a genid felly ganddo ef sydd fel hyn :—
"Mae heddyw yn dêg rhyfeddol
A'r haul fel seren siriol,
A phob peth sydd lân ei lun
Ond calon dyn annuwiol."
Ar ddiwedd pob penill byddai yr arweinydd yn cyfarch yr ychain, a phob un wrth ei enw, mewn geiriau fel hyn,—"Ho,