Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ho, y dâ bach; cadw dy gwys, Gold, fy ngwas i;" a'r cwbl ar fath o dôn gerddorol. Os byddent yn aredig gerllaw y tŷ, byddai ei lais hyfryd yn swyno ei fam, ac yn ei thynu i fyned yn llechwraidd am y berth i wrandaw arno. Un diwrnod yr oeddynt yn aredig yn un o gaeau Craig-y-llan, ac yntau fel arfer yn arwain yr ychain; dygwyddodd i Mr. Thomas, Ynys-y-plwm, ei glywed yn canu, ac wedi sefyll am beth amser yn gwrandaw arno, dywedodd,—" Crotyn rhyfedd yw Billi, Garthgraban; mae rhywbeth yn y bachgen yna." Ei fam hefyd, ar ol gwrandaw arno yn canu i'r ychain, neu ynte wedi ei glywed yn pregethu, ac wrth sylwi ar ei gyflymder, un tro a ddywedodd wrth ei phriod dan wylo, "Beth yn y byd a fydd y bachgen yma?" Dygid ef i fyny ar y fferm gyda'r meibion ereill, a dysgodd yntau holl gyfrinion amaethyddiaeth yn drwyadl. Ond penderfynodd ei dad i roddi mwy o ysgol iddo nag a gawsai ei frodyr hynach.

Yr ysgol gyntaf y bu ynddi oedd ar Donyrefail, gydag un Rollings o Lantrisant. Ei air am dano ydoedd, "Hen ŵr plaen, ond ysgolaig gweddol." Wedi hyny aeth i ysgol yn Lantrisant, a gedwid gan un Thomas Joseph,—"Un a ystyrid yn ysgolaig da." Nid ydym yn gwybod ei oedran yn myned i'r ysgolion hyn. Gallwn feddwl nad oedd yn llawn deg oed pan y gadawodd ysgol Llantrisant. Danfonwyd ef yn nesaf i ysgol yn Mhontfaen, yr hon oedd ar y pryd yn sefydliad o gryn fri, a adwaenid fel "Ysgol yr Eryr." Dyma'r ysgol y buasai y Parch. William Howells, Longacre, Llundain, ynddi y pryd hwnw, fel y dywed y Parch. William Williams, Abertawy, yn y Traethodydd am 1849 (tud. 157), "O dan ofal un Mr. Williams; gŵr tál, teneu, unllygeidiog, yn ysgrifenu â'i law chwith; un o'r ysgolfeistri goreu a ddarfu ysgwyd gwialen fedw." Yn yr ysgol hon hefyd y bu John Sterling ynddi am beth amser, pan yr oedd ei dad yn cartrefu yn Llanblethian, gerllaw Pontfaen. Y mae enw John Sterling wedi ei anfarwoli gan Thomas Carlyle. Yr athraw yn yr adeg ag yr oedd Sterling yn