un o'r ysgoleigion, ydoedd Mr. Rees, olynydd Mr. Williams. Ac yr oedd hyny rywbryd rhwng 1809 ac 1814. Gwnaeth Mr. Rees argraff ddwfn ar John Sterling. Yn mhlith adgofion a ysgrifenwyd ganddo pan yn un-ar-ugain oed yr ydym yn cael yr hyn a ganlyn:—"Nis gallaf yn awr alw i fy meddwl wynebpryd arweinydd da yr ysgol, nac eiddo neb o'i ysgoleigion; ond y mae o fy mlaen ddychymyg gyffredinol gref am agwedd dufewnol ei sefydliad. Yr wyf yn cofio y dwfn barchedigaeth gyda pha un yr arferwn gario at ei eisteddfa gyfrol ddeuddeg-plyg wedi ei bawdio yn dda, sef History of Greece Oliver Goldsmith. Yr wyf yn cofio yr ymdrechfeydd meddyliol poenus a ddyoddefais yn yr ymgais i feistroli y gelfyddyd a'r dirgelwch o ysgrifenu; celfyddyd yn yr hon yr arosais rhy fach o amser dan Mr. R——— i ragori, fel y gwnaethai efe i'w ysgoleigion ereill i wneud, a'r hon y mae fy lledchwithrwydd wedi fy rhwystro i gyraedd unrhyw raddau o berffeithrwydd ynddi dan fy amrywiol ysgolfeistri dilynol. Ond yr hyn sydd wedi gadael ar ei ol belydryn dysglaer o oleuni ydoedd yr arddangosiad o'r hyn a elwid Darnau y Nadolig;' pethau anadnabyddus i ysgolion uwchraddol, ond a arferid yn gyson yn yr ysgol gymhariaethol ostyngedig oedd yn cyflenwi y wybodaeth oreu mewn darllen, ysgrifenu, a rhifyddu, y gellid ei chael yn y gymydogaeth bellenig hono."—(The Life of John Sterling by Thomas Carlyle, tud. 17, 18.) Dan yr un athraw, sef Mr. Rees, y bu William Evans yn ysgol Pontfaen, a dysgodd efe i ysgrifenu yn dda, yn gystal a'r celfyddydau elfenol ereill o ddarllen a rhifyddu, ac hefyd rhyw gymaint o'r gramadeg Saesnig, ac elfenau hanesiaeth. Pa hyd y bu yno nid oes genym hysbysrwydd. Ac nid ydym yn sicr ychwaith beth oedd ei oedran yn myned i Bontfaen; gallwn feddwl ei fod rhwng deg a phymtheg mlwydd oed. Yr ydym yn dra sicr iddo adael Pontfaen cyn ei fod yn bymtheg, hyny yw cyn y flwyddyn 1810.
Yn y man hwn y mae yn rhaid i ni gyfeirio at yr arferiad