Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

haner-farbaraidd oedd yn ffynu yn yr amser hwn yn Llantrisant a Phontfaen; sef y cydymdrechfeydd rhwng bechgyn y trefi a bechgyn y wlad yn y ffurf o ymladdau. Nid elai yr un llanc o'r wlad i Lantrisant neu Bontfaen heb fod yn agored i gael ei guro gan feibion y dref. Ac y mae yn debyg fod bechgyn y wlad yn ddigon parod i gymeryd mantais ar eu cyfleusderau hwythau i weithredu yn gyffelyb. Yr oedd mab ieuangaf Garthgraban wedi cael profiad o'r brwydrau hyn yn Llantrisant pan yno yn yr ysgol, a phan yn myned i'r dref, fel yn ddiameu y byddai yn aml, ar negeson. Nid oes amheuaeth ychwaith ei fod ef yn fwy agored i ymosodiadau o'r fath na'r rhan fwyaf o'i gyfoedion, oblegyd ei dymher boeth a'i ffraethder. Yr un modd wedi iddo fyned i Bontfaen, gwnaeth ei ran mewn ymladd gyda bechgyn y dref hono. Ac weithiau byddai yn gosod ei ddyrnau ar ei fwy a'i gryfach; ond yr oedd yn gwneud hyny gyda'r fath gyflymder a deheurwydd, fel y deuai allan o'r brwydrau hyn, yn mron yn ddieithriad, yn fuddugoliaethwr. Os byddai ei frodyr Richard neu Evan gerllaw, mynent hwy ymladd yn ei le, am eu bod yn hŷn ac yn gryfach nag ef, ac hefyd oblegyd ei fod mor anwyl ganddynt. Pan yn yr ysgol yn Mhontfaen, mae yn ymddangos iddo fwy nag unwaith ymladd "hyd at waed." Rhybuddiwyd ef gan ei chwaer Susannah—yr hon oedd yn gofalu yn y lle yr oedd eu tad yn ei ddal gerllaw y dref, sef y Lâc—yn erbyn ei waith yn cymeryd rhan yn y fath bethau, a bygythiodd hysbysu i'w dad. Bu y chwaer gystal a'i gair; a symudwyd William Evans o'r ysgol, yn ddiameu yn gynt nag oedd ei dad wedi amcanu.

Bu hefyd yn cael gwersi am beth amser gyda Mr. Fred. Humphreys, un o feibion Garthgraban Fawr, yr hwn oedd foneddwr ieuanc o gymeriad rhagorol a gwir grefyddol, ac ydoedd yn aelod o'r eglwys Fethodistaidd ar Donyrefail, a gweithredodd am dymhor fel ysgrifenydd i'r eglwys. Gall y darllenydd gael manylion pellach am Mr. Humphreys mewn erthygl o waith y diweddar Mr. Watkin Williams,