Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pencoed, yn y gyfrol o'r Traethodydd am 1869. Nid ydym wedi llwyddo i gael gwybod am ba faint o amser y bu mab ieuangaf Garthgraban Fach dan addysg Mr. Humphreys; ac oddiwrth yr hyn a glywsom, tueddir ni i gasglu mai cyn iddo fyned i Bontfaen, ac nid wedi iddo ddychwelyd oddi yno, y cymerodd hyny le. Gan hyny, rhaid i ni edrych ar ei ymadawiad o Ysgol yr Eryr, Pontfaen, fel terfyniad ei gwrs addysgol. I un yn meddu y fath gyflymder naturiol, mae yn eglur y buasai addysg uwchraddol o'r fantais fwyaf. Feallai mai nid gormodiaeth yr hyn a ddywedwyd yn ddiweddar gan foneddwr cyfrifol oedd yn ei adnabod yn dda, ei hun yn ysgolhaig graddoledig: "Pe buasai William Evans, Tonyrefail, wedi cael addysg mewn prif—ysgol, buasai yn sicr o fod yn un o brif enwogion ei oes." Yr oedd yn golled fawr iddo na chafodd hyny. Ond pe buasai wedi aros lawer yn hwy yn yr ysgol, nid yw yn annhebyg y buasai wedi colli pob archwaeth at amaethu, ac yr arweiniasid ef i gyfeiriad arall, ac i gylch hollol wahanol i'r hwn y bu yn troi ynddo am oes mor faith, ac yn yr hwn y cyflawnodd wasanaeth mor bwysig ac anmhrisiadwy werthfawr. Y tebygolrwydd yw y buasai ei wlad ei hun wedi ei golli. Modd bynag, yn ngoleuni yr hanes sydd yn dilyn, yr ydym yn cael ein rhwymo i gredu i bob peth gydweithio er daioni, ac y bu yr hyn ydoedd yn golled iddo ef yn enill i laweroedd.

Yr olwg nesaf yr ydym yn gael arno wedi darfod â'i ysgol ydyw fel mab ffermwr, yn gweithio ar y tir gyda'i dad a'i frodyr, ac yn cyflawni amrywiol orchwylion yr alwedigaeth amaethyddol ; ac arosodd felly am bedair neu bum' mlynedd. Yr oedd y plant hynaf yn awr yn ymadael â'u cartref trwy briodi, a'r plant ieuangaf yn dyfod i gymeryd eu lleoedd. Ac nid oedd yr un o honynt yn dilyn yn fwy egniol esiampl hynod eu tad mewn diwydrwydd na'r mab ieuangaf. Nid oedd asgwrn segur yn ei holl gorph. Pa beth bynag yr ymaflai ei law ynddo, yr oedd yn ei wneuthur â'i holl egni. Hefyd yr oedd y nwyfiant, y bywiogrwydd, pertrwydd, y