Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyflymder ysgogiad ac ymadrodd a berthynent iddo fel plentyn, yn parhau i'w nodweddu. Yr oedd yn tyfu i fyny yn ŵr ieuanc hoenus, ymadroddus, gwisgi, fel ei fam, "yn sharp a smart," ac yn llawn direidi. Yr oedd llygad craff ei dad yn dilyn ei holl symudiadau, a'i ofal yn fawr am dano, ac yr ydoedd yn anwyl gan ei fam. Mae yn ddiau iddynt weddio llawer drosto. Er holl fywiogrwydd ei dymher naturiol, a'i ffraethineb, a'r profedigaethau yr oedd y pethau hyn yn ei osod yn agored iddynt, cafodd ei gadw heb syrthio i anfoes. Os ydoedd yn y wlad bell drwy y blynyddoedd hyn, diangodd rhag myned i eithafion ei phellder. Bu yn anystyriol, ac yn ol ei gyffesiad ei hunan, "yn anystyriol iawn ac annuwiol; eithr ni "wasgarodd ei dda, gan fyw yn afradlon," ac nis gellid dyweyd am dano yr hyn a ddywedodd y mab hynaf am ei frawd yn nameg y mab afradlon. Er y direidi, yr ysgafnder, yr anystyriaeth, a'r hyn a fuasai efe ei hunan ar ol hyny yn ei alw yn annuwioldeb, ni thynodd efe yr un graith ar ei gymeriad moesol. Pan elai gyda phobl ieuainc i'w cynulliadau, neu i'r hyn a elwid yn a elwid yn "Gwrw Gwahodd," ac y byddai rhaid iddo ddifyru y cwmni trwy ganu, ni chanai efe ddim ond rhywbeth o Ganiadau Duwiol Williams Pantycelyn. Ni fu erioed yn euog o ganu maswedd. Yr oedd yr

hyn a ddysgodd gan ei dad pan yn blentyn yn aros gydag ef, ac yr oedd yn ychwanegu at y trysor. Elai i'r Ysgol Sul gyda chysondeb, ac yr oedd yn dilyn y moddion cyhoeddus yn nghapel Tonyrefail. Os dygwyddai pregethwr dyeithr ddyfod ar daith trwy y wlad, byddai efe yn ei ganlyn i Bontypridd, a Llantrisant, a Phontfaen, a Phencoed, ac weithiau yn mhellach. Ar un tro felly gwnaeth y pregethwr yr oedd yn ei ddilyn sylwi arno, a gofynodd iddo, " Mab i bwy wyt ti?" ac ar ol cael ateb dywedodd wrtho, "Mae rhyw straen ynot ti." Glynodd y gair yn nghôf y llanc, ac ar hyd ei oes byddai yn hoff o ddyweyd wrth y sawl a welai yn benderfynol a bywiog yn ei symudiadau, "Mae rhyw straen ynot ti." Mae yn ymddangos ei fod wedi rhoddi