Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heibio ei bregethu bachgenaidd yn "grove Cae-derwen❞ a manau ereill o gwmpas. Garthgraban. Eithr yr oedd swyn mawr mewn pregethu iddo ef yn mlynyddoedd ei ieuenctyd. Ac yr oedd yr anian at bregethu yn aros yn ei natur, er fe ddichon i raddau yn nghwsg, drwy y blynyddoedd yr ydym yn awr yn cyfeirio atynt. I'w deffroi yn llawn ac i'w dyfnhau i'r nwyd sanctaidd, a fu mor amlwg ynddo ef am oes hirfaith, yr oedd yn rhaid i William Evans gael ail fedydd, bedydd yr Ysbryd, bedydd argyhoeddiad. Fel y crybwyllwyd yn barod, yr oedd Mrs. Prichard, Collena, yn arfer dyweyd, a hyny yn benderfynol, iddo gael ei ail—eni pan y bedyddiwyd ef gan ei mab hi. Nid ydym yn meddwl fod yr hen foneddiges yn credu yr athrawiaeth o ail—enedigaeth trwy fedydd. Ei theimlad da a'i dymuniad, fe ddichon, oedd achos y meddwl. Eithr pa fendith bynag a gafodd efe yn ei fedydd â dwfr, nid oedd efe eto wedi myned trwy borth cyfyng yr argyhoeddiad o bechod, cyfiawnder, a barn. Y mae yn ymddangos iddo gael ei sobri drwyddo ar un achlysur rhywbryd yn y cyfnod o'i fywyd yr ydym yn awr wedi bod yn son am dano. Yr oedd wedi myned gyda'i frawd Richard i Bontypridd, i wrandaw y Parchedig John Elias. Dyma y tro cyntaf iddo glywed y pregethwr mawr hwnw. Yr oedd yr effeithiau dan y bregeth y fath, fel ar ddiwedd yr oedfa nid oedd yn gwybod b'le yr ydoedd na b'le yr oedd wedi bod. Fel hyn y clywsom ef ei hunan yn adrodd yr hanes. Ond gwisgodd ymaith yr argraff i raddau mawr, er yn ddiameu, nid yn hollol; eithr yn nechreu y flwyddyn 1814, pan nad oedd eto yn llawn 19eg oed, derbyniodd William Evans ei ail fedydd.

Un diwrnod aeth i Lantrisant i wrandaw y Parch. Evan Jones, Merthyr, wedi hyny o Gasnewydd—ar—Wysg, ac ar ol hyny o Lewes. Tro byth—gofiadwy iddo ef oedd hwnw. Aeth ei feddwl dan argyhoeddiad dwfn a dwys. Pan yn gweinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd un Sabboth yn Llantrisant, flynyddau lawer wedi hyny, gwnaeth gyfeir-