Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iad at yr oedfa mewn modd hynod effeithiol. Wedi cyfranu y bara, yr oedd yn myned oddi amgylch gyda'r cwpan, a phan y daeth at fan neillduol yn y capel, safodd, a dywedodd, . "Yn y man hwn, eithr nid yn y capel presenol, eithr yn yr hen gapel, yr ydych yn deall; yn y man hwn, lle yr wyf fi yn awr yn sefyll, wedi dyfod yma yn ddigon anystyriol ac annuwiol—ac annuwiol iawn hefyd—i wrandaw un o'r gweision, daeth y gair hwnw yn rymus at fy meddwl,—' Symud trwodd o farwolaeth i fywyd :' gair am fy mywyd i oedd hwnw i mi." Ac yna aeth yn mlaen mewn hwyl ogoneddus, a'i holl enaid ar dân, i draethu ar y pethau sydd yn nglŷn wrth y symudiad trwodd o farwolaeth i fywyd; a pharhaodd felly am amryw fynydau i dywallt allan ffrydlif o hyawdledd nerthol, nes yr oedd yr holl gymunwyr mewn teimladau tra gorfoleddus. Yn y man gofynodd yn sydyn, "B'le yr oeddwn i?" Atebodd un o'r brodyr ef, "Yn y man hyn yn rhoi y cwpan, Mr. Evans." "Diolch i chwi;" ac aeth rhagddo yn hamddenol a dedwydd i orphen y gwasanaeth. Fel hyn yr adroddwyd yr hanes i ni gan Mr. John Morgan, Gwernymoel, yr hwn oedd yn bresenol, ac yn mawr fwynhau y wledd. Ni a'i clywsom ef ein hunain yn cyfeirio at yr un oedfa fel awr ei droedigaeth, a dywedai, "Bu'm farw i'r ddeddf ar unwaith, ac yr oedd yn galed iawn arnaf;" ac yna coffâodd sylw o eiddo Mr. Charles, Caerfyrddin,—"Mae rhai yn marw i'r ddeddf ar unwaith, ac ereill yn marw i'r ddeddf dros eu hoes." Yr oedd chwaer ieuangaf Mr. Evans yn cofio troedigaeth ei brawd, a'i ddychweliad at grefydd, yn dda; a'i gair am hyny wrthym ydoedd, "Fe gafodd ei drwytho yn dda." Ar ol y tro byth-gofiadwy hwnw yr oedd efe yn "greadur newydd."

Bydd yn dderbyniol gan y darllenydd i gael ychydig o hanes y gweinidog fu yn offeryn troedigaeth William Evans, Tonyrefail. Ganwyd Mr. Evan Jones mewn ffermdŷ o'r enw Ffrwd, yn sir Frycheiniog, ar y 7fed o Awst, 1790. Collodd ei dad pan yn naw mlwydd oed, yr hyn a barodd i'w wneuthur