Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn fwy meddylgar na'r mwyafrif o'i gyfoedion. Ail briododd ei fam gyda gŵr a arferai wrandaw y Methodistiaid, ond nid yn aelod, yr hwn a wahoddodd ei lysfab i fyned gydag ef un prydnawn Sabboth i wrandaw pregeth. Glynodd y genadwri yn meddwl y llanc, ac aeth drachefn i'r moddion cyhoeddus. Y canlyniad fu iddo ymuno â'r eglwys yn Pontmorlais, Merthyr Tydfil, yn y flwyddyn 1807, pan nad oedd ond tua 17eg oed. Dechreuodd bregethu pan yn 21ain, ac o dan yr amgylchiadau canlynol:—Yr oedd wedi myned gydag amryw ereill i wrandaw pregeth mewn tŷ anedd. Gofynwyd iddo ddechreu y cwrdd, a phan yn troi o'r neilldu i roddi lle i'r pregethwr, dywedwyd wrtho y rhaid iddo lefaru ychydig eiriau, ac felly y gwnaeth. O hyny allan cydnabyddwyd ef fel pregethwr rheolaidd yn Nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd ; ac yn y flwyddyn 1819 ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth. Yn 1814 symudodd i Gasnewydd-ar-Wysg; ac yn 1822 adeiladwyd iddo gapel Saesneg yn y dref hono, ac aeth yntau yn weinidog sefydlog i'r eglwys a ffurfiwyd ac a ymgynullai ynddo. Arweiniodd hyn i'w gysylltiad â'r Methodistiaid gael ei dori. Yn 1829 derbyniodd alwad i gymeryd gofal bugeiliol eglwys y Tabernacle, yn Lewes, yn swydd Sussex. Parhaodd i wasanaethu yr achos yn y lle hwnw gyda graddau helaeth o gymeradwyaeth a llwyddiant am yr ysbaid maith o dair-blynedd-ar-ddeg-ar-ugain, sef hyd y flwyddyn 1862, pryd, o herwydd ffaeledd ei iechyd, y gorfodwyd ef i ymddiswyddo. Ni phregethodd nemawr ar ol hyny. Gwaethygodd ei iechyd yn raddol, ac ar yr 20fed o Ionawr, 1864, symudwyd ef gan angeu i dragwyddol orphwysfa y saint. Ei brif nodweddiad fel Cristion ydoedd ymorphwysiad hollol ei feddwl ar Dduw, a hyny gyda golwg ar bob peth tymhorol ac ysbrydol, Cafodd rai profedigaethau tanllyd, ond yn mhob ystorom byddai efe yn dawel. A phan yn agosau at farw, dywedodd nad oedd y glyn mor dywyll a dychrynllyd ag yr ofnasai, a bod ei Gyfaill Da wedi ei wneuthur yn oleu iddo ef.